Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth Uwch – Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    36 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth Uwch – Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i ddarparu gweithwyr medrus o safon uchel i'r sector gofal cymdeithasol er mwyn cefnogi gwaith cynllunio a dilyniant i arweinwyr a rheolwyr yn y maes. Mae'n cynnig dilyniant i staff profiadol i staff ennill y cymhwyster angenrheidiol i fynd ymlaen i reoli ac arwain ym maes gofal cymdeithasol.

Mae gofyn i reolwyr cartrefi gofal plant ac oedolion yng Nghymru gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru ac o 2013 ymlaen bydd rheolwyr gwasanaethau sy'n cynnig gwasanaeth hefyd yn gorfod cofrestru. Mae hwn yn gymhwyster sydd yn seiliedig ar gymhwyster ac mae'r fframwaith yn cyflwyno’r cymwysterau y byddwch chi eu hangen. Mae’r cyrsiau hyn yn ddilyniant naturiol o'r cwrs Fframweithiau Ymarferwyr Uwch.

Mae yna nifer o lwybrau:

  • Rheoli Gwasanaethau i Oedolion
  • Rheoli Gwasanaethau Preswyl i Oedolion
  • Rheoli Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
  • Rheoli Gwasanaethau Preswyl i Blant a Phobl Ifanc


Gofynion mynediad

Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ar gyfer y rhai sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n bodloni gofynion rheoleiddiol ychwanegol sy'n berthnasol i rai lleoliadau gwaith.

Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd:

  • yn edrych i ddangos y cymwyseddau a nodir yn y cymhwyster fel rhan o'u rôl waith, ac sy'n bodloni unrhyw reoliadau isafswm oedran y lleoliad gwaith
  • wedi cwblhau cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4 priodol, sy'n cael y cyfle i roi theori ar waith, ac yn bodloni unrhyw ofynion rheoleiddiol ychwanegol
  • Rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi mewn rôl addas mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • TGAU - graddau C neu uwch (neu raddau cyfatebol) mewn Saesneg / Cymraeg a Mathemateg. Efallai y bydd gofyn i ddysgwyr heb y graddau hyn uwchsgilio yn gyntaf a bydd angen iddynt gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf i ddilyn y cymhwyster hwn.

Cyflwyniad

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ar gyfer y rhai sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fe’i cyflwynir ar sail un i un yn y gweithle.

Asesiad

Lefel 5 Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: bydd ymarfer yn cael ei asesu'n allanol.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • prosiect busnes
  • trafodaeth broffesiynol

Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:

  • Arwain a rheoli arfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn/plentyn
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
  • Arwain a rheoli ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a sefydliadol
  • Ymarfer proffesiynol
  • Arwain a rheoli ymarfer sy’n hyrwyddo diogelu unigolion
  • ⁠Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogeled yn y lleoliad gwaith

Mae amrywiaeth o unedau dewisol ar gael o fewn y cymhwyster hwn hefyd

Dilyniant

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen â'u cyfleoedd cyflogaeth neu i barhau i astudio ymhellach ar lefel uwch.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

Darpariaeth dwyieithog ar gael

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth