Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lean Six Sigma Lefel Du - Ystafell Ddosbarth Rhithwir

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 diwrnod llawn yn olynol

Cofrestrwch
×

Lean Six Sigma Lefel Du - Ystafell Ddosbarth Rhithwir

Cyrsiau Rhan-amser

Disgrifiad o'r Cwrs

A yw cwrs CEPAS Lean Six Sigma Lefel Du yn iawn i mi?

Mae ein cwrs hyfforddi Lean Six Sigma Lefel Du yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd eisoes yn meddu ar dystysgrif Lefel Wyrdd ac sy'n awyddus i ehangu ar eu gwybodaeth a'u profiad fel uwch-reolwr. Ar ôl cwblhau’r cwrs hyfforddi Lefel Du byddwch yn mentora, cynghori a rhoi cymorth i hyfforddeion Lefel Melyn a Gwyrdd, ac ymgymryd â chyfrifoldebau prosiect uwch.

Mae'r cwrs hyfforddi Lefel Du hefyd yn addas ar gyfer unigolion gydag ychydig neu ddim profiad, sy'n awyddus i weithio mewn rôl rheoli prosiect neu fel gweithiwr proffesiynol Lean Six Sigma.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad i gofrestru ar y cwrs hyfforddi hwn, dim ond parodrwydd i gymryd rhan a meddwl agored.

Cyflwyniad

Darparir ar-lein drwy gyfrwng Ystafell Ddosbarth Rithwir

Asesiad

Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio

Dilyniant

Pa swyddi alla i ymgeisio amdanynt ar ôl cwblhau fy hyfforddiant Lean Six Sigma Lefel Du?

Unwaith y byddwch wedi llwyddo yn eich arholiad Lefel Du, gallwch wneud cais am ystod o swyddi uwch a swyddi rheoli, gan gynnwys:

  • Rheolwr Gwella Proses - £45k
  • Rheolwr Gwelliant Parhaus - £48k
  • Rheolwr Ansawdd - £50k
  • Rheolwr Prosiect Lean Six Sigma Lefel Du - £51k
  • Cyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd - £65k
  • Cyfarwyddwr Gweithrediadau - £73k

(Ffynhonnell: Payscale)

https://www.e-careers.com/courses/lean-six-sigma-black-belt-classroom?q=Lean+Six+S

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth