Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 2 mewn Cefnogi Oedolion a Phobl Ifanc sydd ag Anawsterau Dysgu Ychwanegol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    16 wythnos, Dydd Mercher 4yh - 7yh.

Cofrestrwch
×

Dyfarniad Lefel 2 mewn Cefnogi Oedolion a Phobl Ifanc sydd ag Anawsterau Dysgu Ychwanegol

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cymhwyster proffesiynol sy’n cydnabod yn ffurfiol y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi anghenion dysgu amrywiol iawn oedolion a phobl ifanc. Yn cynnig cyfleoedd dilyniant i'r rhai sy'n darparu cymorth dysgu, trwy gydnabod y lefelau gwahanol o gyfrifoldeb sy'n bodoli mewn lleoliadau addysgol.

Gofynion mynediad

⁠Rhaid i'r dysgwyr:

  • Fod yn 18 oed o leiaf i wneud y cymhwyster hwn.
  • Fod yn barod i arddangos eu sgiliau mewn lleoliad ymarferol, felly rhaid bod yn gyflogedig, neu fod ar brofiad gwaith neu'n gwirfoddoli mewn lleoliad lle maent yn gweithio gydag oedolion neu bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Sgiliau cyfathrebu Lefel 2 neu uwch er mwyn gallu cefnogi oedolion a phobl ifanc i gyflawni eu llwybr dysgu.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Gweithio a thrafod mewn grŵp
  • Astudio’n annibynnol
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Parth dysgu rithwir (Google Classroom/Sites)

Asesiad

Mae'r cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymorth Dysgu i Oedolion a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ddyfarniad (10 credyd), ac mae ganddo bedair uned orfodol ac un uned ddewisol.

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Hyfforddiant Athrawon

Hyfforddiant Athrawon

Darlithydd yn arwain dosbarth