Tystysgrif Lefel 2 mewn Gosod Cydrannau Cerbydau Modur
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
Cwrs llawn amser sy’n para blwyddyn
Tystysgrif Lefel 2 mewn Gosod Cydrannau Cerbydau ModurDysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Dystysgrif Lefel 2 hon mewn Egwyddorion Gosod Cydrannau ar Gerbydau ar gyfer unrhyw un a'i fryd ar yrfa yn y diwydiant moduron sydd eisiau datblygu sgiliau ymarferol mewn systemau cerbydau modur ac ehangu eu dealltwriaeth ohonynt, megis teiars, systemau brêcs, pibellau gwacáu ac alinio olwynion gyda laser. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y sgiliau sydd eu hangen i wneud cais am Brentisiaeth Uwch ym maes moduro neu lwybr peirianneg tebyg.
Gofynion mynediad
Crefft Peirianneg Sylfaen Lefel 1 neu 3 TGAU gradd D neu uwch.
Cyflwyniad
Cymysgedd o sesiynau ymarferol yn y gweithdy a sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth.
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu trwy gymysgedd o weithgareddau ymarferol, arholiadau ar-lein ac asesiadau ysgrifenedig.
Dilyniant
Gall cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyflogaeth mewn swyddi fel gosod teiars, gosod cydrannau cerbydau, technegydd alinio pedair olwyn neu at Brentisiaeth yn y diwydiant moduro. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i Ddiploma Lefel 2 llawn mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Modur, yn amodol ar gyflwyno cais a chael cyfweliad llwyddiannus.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Peirianneg