Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12 mis
Diploma Lefel 2 mewn Gwaith ChwaraeDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae (FfCCH) wedi'i anelu at staff sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad a fwriadwyd yn bennaf ar gyfer darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae hunan-gyfeiriedig a ddewisir yn rhydd. Nid oes gan yr aelodau staff hyn gyfrifoldeb llawn am yr amgylchedd chwarae ond byddant yn cyfrannu'n sylweddol at gefnogi'r chwarae.
Bydd cyfanswm o 18 awr o arsylwi'n digwydd, a bydd trafodaeth broffesiynol yn dilyn pob sesiwn arsylwi.
Mae cyfle i ddysgwyr sy'n gwirfoddoli wneud y cymhwyster hwn.
Gofynion mynediad
Rhaid i'r dysgwyr fod mewn gwaith cyflogedig mewn lleoliad gofal plant (ac yn gwneud gwaith chwarae)
Rhaid i'r dysgwyr fod dros 16 oed i wneud y cwrs
Cyflwyniad
Arsylwadau, dysgu uniongyrchol, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan y cyflogwr.
Gall unigolion gwblhau'r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Asesiad
Gwaith ysgrifenedig, arsylwadau, trafodaethau ac ati.
Mae angen 18 awr o arsylwadau o leiaf i gwblhau'r cymhwyster Lefel 2 a'r cymhwyster Lefel 3.
Bydd y gwaith ar e-bortffolio ar Onefile.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster Lefel 2, mae'n bosibl mynd ymlaen i wneud y cymhwyster Lefel 3.
(Sylwer bod y cymhwyster hwn yn ofyniad gan AGC ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliad gwaith chwarae.)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Datblygiad ac Addysg Plant
Datblygiad ac Addysg Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: