Diploma Lefel 2 mewn Astudiaethau Plymwaith
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn, yn rhan-amser, 2 noson yr wythnos
Diploma Lefel 2 mewn Astudiaethau PlymwaithDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi fod yn blymwr?
Ar y rhaglen hon, cewch eich cyflwyno i'r technegau sylfaenol sy'n gysylltiedig â phlymwaith ac a fydd yn eich paratoi i weithio yn y maes. Wedyn, byddwch yn mynd ymlaen i astudio pynciau ar lefel uwch yn ogystal â meithrin dealltwriaeth sylfaenol o waith trydanol.
Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer amrywiaeth o bobl sy'n gobeithio gweithio ym maes plymwaith. Mae'r rhaglen yn llwybr i brentisiaeth neu i raglen brofiad gwaith lawn.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw anghenion mynediad ar gyfer y cwrs. Bydd angen lefel sylfaenol o lythrennedd a rhifedd.
Cost y cwrs: £500
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau addysgu a sesiynau ymarferol.
Asesiad
Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig.
Dilyniant
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi ddysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i weithio ym maes plymwaith gan fynd ymlaen i brentisiaeth neu brofiad gwaith lawn.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig