Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
20 wythnos. Dydd Mercher 3-5pm.
Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2Dysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os ydych chi'n angerddol ynghylch ffitrwydd ac eisiau helpu eraill i gyflawni eu nodau iechyd, mae'r Dystysgrif Lefel 2 Hyfforddwr Ffitrwydd yn fan cychwyn perffaith i'ch gyrfa. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth hanfodol a’r sgiliau ymarferol i gynllunio, cyflwyno a goruchwylio rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol. P'un ai ydych yn newydd i'r maes ffitrwydd neu'n awyddus i gael cydnabyddiaeth o'ch profiad presennol, bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r hyder i chi weithio mewn unrhyw gampfa neu glwb iechyd.
Cyflwynir y cwrs trwy addysgu pwrpasol gan ddarlithydd cymwys sydd â phrofiad fel Hyfforddwr Perfformiad i dîm pêl-droed dynion Cymru dan 17 oed. Byddwch yn derbyn arweiniad arbenigol wedi'i deilwra i'ch anghenion. Gyda gwybodaeth ac arbenigedd eang y darlithydd, cewch y cymorth a'r gefnogaeth sydd ei angen i lwyddo yn y cymhwyster hwn, wrth ddysgu am anatomeg, ffisioleg, maeth, iechyd a diogelwch, a gwasanaethau i gwsmeriaid. Ymunwch â ni a chymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn hyfforddwr ffitrwydd cymwys!
Gofynion mynediad
Argymhellir peth profiad o ymarferion yn yr ystafell ffitrwydd, gan gynnwys ymarferion yn defnyddio pwysau rhydd.
Mae'r cwrs yn gofyn am ymdrech gorfforol, ac mae cyfranogiad yn hanfodol; felly, mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol.
Mae'n cynnwys elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) a dylai dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu ar Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru neu gyfwerth.
Cost y cwrs yw £500. Holwch ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr i weld a ydych yn gymwys i gael unrhyw gymorth gyda chostau.
Cyflwyniad
- Sesiynau wyneb yn wyneb
- Yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gampfa/ystafell ffitrwydd
- Gwaith grŵp a gwaith unigol
Asesiad
- Gwaith cwrs/Prosiect
- Arholiad cwestiynau amlddewis
- Portffolio o dystiolaeth
- Aseiniad/Enghreifftiau ymarferol
Dilyniant
- Level 3 Sport courses at Coleg Llandrillo
- Foundation Degree (FdSc) Sport Science (Sports Coaching)
- Employment opportunities as a Gym Instructor
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored