Cyflwyniad i Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Cwnsela, Hyfforddi a Mentora Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
20 wythnos, 3 awr yr wythnos
Cyflwyniad i Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Cwnsela, Hyfforddi a Mentora Lefel 2Dysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi'i gynllunio i gyflwyno pobl i gwnsela a rolau eraill, a nodi'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer datblygu yn eu rôl broffesiynol neu bersonol.
Nod y cwrs yw adnabod sefyllfaoedd yn y gwaith lle mae gofyn defnyddio sgiliau fel gwrando empathig, a deall agweddau, rhagfarnau a gwerthoedd a all hwyluso neu lesteirio'r berthynas.
Bydd yn eich helpu i:
- ddod i ddeall y sgiliau craidd sy'n cynnwys gwrando'n weithredol ac yn empathig ynghyd ag ymateb yn effeithiol;
- dod yn ymwybodol o derfynau eich rôl broffesiynol e.e. rôl tiwtor wrth ddysgu a gwybod pryd y mae'n well cyfeirio rhywun at unigolyn/asiantaeth arall.
Mae'r cwrs hwn yn cefnogi strategaeth Meddwl yn Gadarnhaol: Iechyd a Lles Emosiynol Llywodraeth Cymru, ac yn codi ymwybyddiaeth am les emosiynol ac iechyd meddwl.
Dyma'r pynciau y byddwch yn eu hastudio yn y modiwl hwn:
- Sgiliau a Theori Cwnsela
- Deall gwahaniaethau allweddol rhwng Cwnsela, Hyfforddi a Mentora
- Moeseg
- Ymarfer Adfyfyriol
- Darparu adborth
Bydd hyn yn caniatáu dilyniant i Lefel 3 Cwnsela, neu astudiaeth bellach arall mewn hyfforddi a mentora.
Ffi Cwrs ar gyfer 2024/25 - £369
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
Rhaid i chi fod yn 19 oed o leiaf ar adeg dechrau'r cwrs i astudio ar gyfer y cymhwyster hwn.
Cyflwyniad
- Sesiynau addysgu
- Cyflwyniadau
- Gwaith grŵp
- Ymarfer sgiliau mewn grŵp bach
Asesiad
Sesiynau ymarferol
Dilyniant
- Lefel 3 Cwnsela
- Astudiaeth bellach mewn Hyfforddi a Mentora
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cwnsela