Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth o Ynni

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Bydd y cwrs hwn yn cymryd lleiafswm o 20 awr i'w gwblhau fodd bynnag mae pob dysgwr yn wahanol ac mae e-ddysgu yn cynnig yr hyblygrwydd i astudio ar eich cyflymder eich hun.

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth o Ynni

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych yn weithiwr sydd yn darparu cyngor ar ynni i gartrefi, un ai wyneb yn wyneb neu tros y ffon, bydd y cwrs hwn yn darparu dulliau arbed ynni a'r wybodaeth a'r sgiliau eraill gofynnol i ddarparu cyngor defnyddiol.

Gofynion mynediad

Byddem yn argymell fod gan ddysgwyr wybodaeth sylfaenol/profiad o'r pwnc.

Bydd dysgwyr angen sgiliau cyfrifiadur sylfaenol i we-lywio yr e-ddysgu.

Gan fod hwn yn gymhwyster lefel 3 bydd dysgwyr hefyd angen sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Bydd y cwrs a'r arholiad yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig yn ogystal â chyfrifo biliau tanwydd; bydd cyfrifo costau rhedeg cyfarpar trydanol a throsi tymhereddau gan ddefnyddio fformiwlâu syml a fydd yn cael eu darparu.

Cyflwyniad

Bydd dysgwyr yn cael mynediad i'r cwrs am 6 wythnos ar lwyfan e-Ddysgu a byddant yn medru astudio ar-lein ar amser a lleoliad sy'n gyfleus iddynt. Byddant hefyd yn derbyn set o ddogfennau cefnogi gan gynnwys papurau ffug arholiad, gweithgareddau a thaflenni i'w cadw i gyfeirio atynt yn y dyfodol ynghyd a chopi o'r llyfr Cyngor ar Ynni yn y Cartref.

Pan yn barod, bydd cynrychiolwyr yn mynd i sefyll yr arholiad gydag arholwr wedi ei gofrestru gyda NEA.

Bydd cefnogaeth tiwtor ar gael ar gais i gynorthwyo gydag ymholiadau penodol yn ymwneud gyda chynnwys y cwrs. Fel arfer caiff hyn ei wneud drwy e-bost neu alwad ffôn / fideo.

Noder os gwelwch yn dda fod y gefnogaeth hon yn gyfyngedig i amser gan fod e-ddysgu yn gyffredinol yn hunan-gyfeiriedig.

Asesiad

Mae'r asesiad ar-lein wedi ei rannu i'r tair adran ganlynol a dylai ymgeiswyr osod o'r neilltu diwrnod llawn ar gyfer yr arholiad:

Papur Arholiad Un (75 munud)

  • Gwresogi Cartref
  • Biliau, Mesuryddion a Thalu am Danwydd

Papur Arholiad Dau (75 munud)

  • Lleihau faint o Wres a Gollir
  • Anwedd a Thamprwydd
  • Efelychiad (30 munud)
  • Gosod rhaglenwyr gwres canolog

Chwarae rôl ymgynghorydd ynni

Mae asesu ar gyfer y cymhwyster hwn fel arfer yn digwydd wyneb yn wyneb fodd

bynnag oherwydd y pandemig Coronafeirws mae'r holl gyflwyno wyneb yn wyneb ar hyn o bryd wedi ei ohirio ac rydym yn cynnig asesiad ar-lein yn y cyfamser.

Rhaid i'r holl ddysgwyr fynychu sesiwn arholiad wedi ei arsylwi gan arholwr wedi cofrestru gyda NEA.

Ar gyfer arholiadau ar-lein bydd angen ystafell dawel ar ddysgwyr a dwy ddyfais electronig ar wahân gyda mynediad rhyngrwyd, sain a chamera fideo. Rhaid i'w ddwy ddyfais gysylltu gyda Zoom (llwyfan fideogynadledda). Bydd dyfais un yn cael ei ddefnyddio i gysylltu gyda Zoom er mwyn i'r arholiad gael ei arolygu (gallai hyn fod yn gyfrifiadur, cyfrifiadur llechen neu ffôn symudol) a bydd dyfais dau yn cael ei ddefnyddio i gael mynediad i'r ffurflenni arholiad ar-lein (gallai hyn fod yn gyfrifiadur neu yn gyfrifiadur llechen).

Dilyniant

Bydd y cwrs hwn yn darparu dealltwriaeth i'r cyfranogwyr o gyngor ynni a'r wybodaeth ofynnol i ddarparu cyngor ar ynni i berchnogion tai.

Dewisiadau ar gyfer cyrsiau pellach:

  • Datgarboneiddio Cartrefi: Technolegau, Effeithiau a Datrysiadau (y cymhwyster Lefel 4 llawn)
  • Cyrsiau NEA eraill
  • Cyrsiau eraill yn y Grŵp

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'