Troseddeg Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Troseddeg Lefel 3Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch?
Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio. Gallwch ddod o hyd i'r grid pynciau Lefel A i wneud eich dewisiadau ar ein prif dudalen Lefel A.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Diweddarwyd manyleb CBAC yn 2021 ac mae'r cymhwyster, ar ôl ei gwblhau, yn dwyn yr un pwyntiau UCAS â phynciau Safon Uwch. Bellach gellir ei astudio ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch uwch erall fel rhan o lwybr Lefel 3 / Safon Uwch. Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant dysgwyr o unrhyw astudio ar Lefel 2, yn enwedig TGAU mewn Cymdeithaseg, y Gyfraith, Seicoleg a'r Dyniaethau. Unedau'r flwyddyn gyntaf - Uned 1: Newid ymwybyddiaeth o drosedd (gwaith cwrs) - Uned 2: Damcaniaethau troseddeg (arholiad) Unedau'r ail flwyddyn - Uned 3: O leoliad y drosedd i'r llys (gwaith cwrs) - Uned 4: Trosedd a Chosb (arholiad) |
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen yr isod arnoch:
6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg neu Rifedd
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i'r ail flwyddyn (Diploma Cymhwysol) yn seiliedig ar eich perfformiad yn y flwyddyn gyntaf (Tystysgrif Gymhwysol).
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
Gwaith grŵp
Dysgu yn y dosbarth
Cefnogaeth tiwtorial
Ymweliadau addysgol
Google Classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
Gymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
Ailsefyll TGAU a/neu
Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster gwerthfawr sy'n aml yn cael ei astudio ochr yn ochr â chwrs Lefel 3 llawn amser.
Mae'r cymhwyster wedi'i raddio A*-E, sy'n denu pwyntiau UCAS cyfatebol ar Lefel 3, ac yn rhoi sgiliau personol a busnes trosglwyddadwy i chi. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Menter a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg Iaith /Saesneg Iaith.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Mae’r cwrs yn cynnwys un arholiad a chynhyrchu gwaith i'w asesu dan amodau wedi'u rheoli ym mlwyddyn 1 a blwyddyn 2.
Dilyniant
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at fyfyrwyr Safon Uwch sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y sectorau Heddlu / Gorfodi'r Gyfraith / Cyfiawnder Ieuenctid / y Gwasanaeth Prawf / Carchardai / Gofal Cymdeithasol.
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Lefel AS/A