Hanfodion Ffisioleg Ymarfer Corff – Lefel 4
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Dydd Llun 11am - 12:30pm
Dydd Mawrth 11am - 1pm
13/1/2025 - 13/5/2025
Hanfodion Ffisioleg Ymarfer Corff – Lefel 4Dysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Datblygwch eich dealltwriaeth o anatomi i'r lefel nesaf! Mae'r modiwl hwn yn archwilio sut mae systemau'r corff yn rhyngweithio ac yn addasu wrth ymarfer corff. Yn ogystal, bydd y modiwl yn mireinio eich sgiliau ymchwilio mewn labordy, eich sgiliau trin data, a'ch sgiliau cyflwyno. Byddwch yn barod i godi lefel eich arbenigedd!
Byddwch yn dysgu am:
Ymateb i Ymarfer Corff:
- Sut mae'r system gardiofasgwlaidd yn cael ei threfnu a'i rheoleiddio
- Sut mae'r system anadlol yn cael ei threfnu a'i rheoleiddio
- Systemau egni a chyfnewid trothwyon yn ystod ymarfer corff
- Rhyngddibyniaeth a rheolaeth fewnol y systemau amrywiol
- Y systemau cardiofasgwlaidd ac anadlol
- Aerobig ac anaerobig
- Metaboledd egni
- Cyhyrol (dygnwch a chryfder) a meinwe gyswllt
I bwy mae'r modiwl hwn yn addas:
- Darpar Hyfforddwyr Personol - Y rhai sydd am gael sylfaen gref mewn anatomeg, ffisioleg ymarfer corff, ac optimeiddio perfformiad.
- Athletwyr a Hyfforddwyr - Unigolion sydd eisiau dysgu am sut mae hyfforddiant yn effeithio ar y corff ar lefel wyddonol er mwyn gwella eu technegau hyfforddi
Gofynion mynediad
Profiad perthnasol yn y diwydiant neu cymhwyster i Lefel 3
Cyflwyniad
- Darlithoedd
- Seminarau a gweithdai grŵp
- Ymarferion ffisiolegol i brofi sgiliau (e.e. trothwy lactad)
- Trin data
Asesiad
Gwaith cwrs ac aseiniad
Dilyniant
Cyrsiau eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored