Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Maeth a Pherfformiad ym maes Chwaraeon – Lefel 4

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Dydd Llun 9-11am

    Dydd Mawrth 2:30 - 4pm

    13/1/2025 - 13/5/2025

Cofrestrwch
×

Maeth a Pherfformiad ym maes Chwaraeon – Lefel 4

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

kehoe1s@gllm.ac.uk

Disgrifiad o'r Cwrs

Yn y modiwl hwn byddwch yn dod i ddeall pa mor bwysig yw maeth mewn chwaraeon! Byddwch yn dysgu pam fod maeth yn bwysig i iechyd a pherfformiad a sut y gall atchwanegiadau dietegol (cymhorthion ergogenig) wella llwyddiant athletaidd. Gwella eich gêm trwy ddysgu am hanfodion maeth!

Byddwch yn dysgu am:

  • Bwysigrwydd diet iach a chytbwys
  • Strwythur, swyddogaeth a metaboledd maethynnau macro
    • Carbohydradau, lipidau, protein
  • Strwythur, swyddogaeth a metaboledd maethynnau micro
    • Fitaminau, mwynau, dŵr
  • Dadansoddiad dietegol
  • Addasu diet i wella perfformiad
  • Atchwanegiadau i wella perfformiad
  • Cymhorthion ergogenig a phroblemau cysylltiedig

I bwy mae'r modiwl hwn yn addas:

  • Darpar Athletwyr - Unigolion sydd am optimeiddio eu perfformiad gyda maeth a atchwanegiadau priodol
  • Pobl sydd â Diddordeb mewn Ffitrwydd - Yn rhai sy'n awyddus i wybod sut y gall diet roi hwb i iechyd a ffitrwydd
  • Hyfforddwyr - Gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i ehangu eu gwybodaeth er mwyn gallu rhoi arweiniad gwell ar faeth i athletwyr
  • Myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon - Dysgwyr sydd am gael dealltwriaeth sylfaenol o faeth mewn chwaraeon a sut mae'n dylanwadu ar berfformiad
  • Gweithwyr Iechyd - Maethegwyr neu ddietegwyr sy'n awyddus i arbenigo mewn maeth i athletwyr

Gofynion mynediad

Profiad perthnasol yn y diwydiant neu cymhwyster i L3

Cyflwyniad

Cyflwyniad, gwaith grŵp, astudiaeth annibynnol

Asesiad

Gwaith cwrs ac aseiniad

Dilyniant

Cyrsiau eraill.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyrwyr yn defnyddio offer chwaraeon
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date