CPCAB Diploma Lefel 5 mewn Sgiliau a Theori Therapi Ymddygiad Gwybyddol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn. 4 awr yr wythnos, un noson yr wythnos, 5pm-9pm fel rheol.
CPCAB Diploma Lefel 5 mewn Sgiliau a Theori Therapi Ymddygiad GwybyddolDysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i:
- Gwnselwyr Cymwysedig sydd am ddatblygu sgiliau a theori Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn rhan annatod o'u gwaith cwnsela proffesiynol.
- Cwnselwyr Cymwysedig sy'n awyddus i wella'u cyflogadwyedd gyda sefydliadau ac fel ymarferwyr annibynnol drwy feithrin sgiliau a gwybodaeth gadarn ym maes Therapi Ymddygiad Gwybyddolgan ei fod yn un o'r therapïau seicolegol a argymhellir gan NICE.
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
Diploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig, Tystysgrif Addysg Bellach Lefel 4 mewn Cwnsela neu Ddysgu Blaenorol (RPL) cyfwerth.
Yn Gwnselydd cyflogedig neu'n gwnselydd gweithio yn y sector gwirfoddol.
I fodloni'r fframwaith Therapi Ymddygiad Gwybyddol rhaid wrth allu i gwblhau 30 awr o waith gyda chleientiaid.
Aelod o gorff Cwnsela proffesiynol a bod â'ch yswiriant indemniad proffesiynol eich hun.
Mynediad i oruchwyliaeth Gwnsela fisol.
Cyflwyniad
Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.
Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:
- Ddarlithoedd
- Trafodaethau
- Gweithio mewn grwpiau bach
- Gweithdai
- Tiwtorialau
Dyddiad Cychwyn
Medi a Ionawr
Asesiad
Asesiad mewnol: portffolio'r ymgeisydd yn cael ei asesu gan y tiwtor.
Asesiad allanol: astudiaeth achos sy'n cael ei asesu'n allanol (3,000-3,500 gair)
Hyfedrusrwydd (Llwyddo) / Diffyg Hyfedrusrwydd (Methu) – rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedrusrwydd yn yr asesiad allanol a mewnol i gael y cymhwyster.
Dilyniant
- Cwrs CPCAB Lefel 6 mewn Goruchwylio ym maes Cwnsela Therapiwtig
- Gradd Sylfaen mewn Cwnsela.
- Gradd BA (Anrh) mewn Cwnsela
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
5
Maes rhaglen:
- Cwnsela
Dwyieithog:
n/a