Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Dydd Mercher 9am - 1pm

    8/1/2025 - 14/5/2025

Cofrestrwch
×

Ffisioleg Uwch – Lefel 6

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Deall y wyddoniaeth y tu ôl i ludded, mynd i'r afael ag ymchwil sy'n gwrthdaro ym maes ymarfer corff, a gwella eich sgiliau hyfforddi trwy eu rhoi ar waith yn y byd go iawn

Byddwch yn dysgu am:

  • Ludded:
    • Mecanweithiau canolog ac ymylol
    • Model Llywodraethwr Canolog
    • Model seicobiolegol
  • Newidiadau ffisiolegol a thechnegau ymarfer corff:
    • Datblygu pŵer
    • Hyfforddiant hypertroffedd
    • Atal anafiadau - llwytho ecsentrig
    • RFD a newidiadau niwrolegol
    • Hyfforddiant cyflymder a newid cyfeiriad

I bwy mae'r modiwl hwn yn addas:

  • Darpar Athletwyr - Unigolion sydd am optimeiddio eu perfformiad trwy roi'r ymchwil ddiweddaraf ar waith
  • Pobl sydd â Diddordeb mewn Ffitrwydd - Yn rhai sy'n awyddus i wybod sut i wneud y defnydd gorau o ddygnwch a/neu bŵer cyhyrol
  • Hyfforddwyr - Gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i ehangu eu gwybodaeth er mwyn gallu rhoi arweiniad gwell i athletwyr
  • Myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon/Myfyrwyr Cryfder a Chyflyru - Dysgwyr sy'n awyddus i ehangu eu gwybodaeth trwy feithrin dealltwriaeth feirniadol o'r ymchwil ddiweddaraf a sut mae'n cael ei rhoi ar waith yn ymarferol

Gofynion mynediad

Dylech allu dangos eich gwybodaeth o'r hyn a ddysgwyd ar lefel 5. I drafod eich addasrwydd ar gyfer y modiwl hwn, cysylltwch â s.kehoe@gllm.ac.uk

Cyflwyniad

  • Darlithoedd
  • Seminarau a gweithdai grŵp
  • Sesiynau ymarferol yn y gampfa
  • Arddangosiadau o hyfforddiant cryfder a chyflyru

Asesiad

Gwaith cwrs ac aseiniad

Dilyniant

Cyrsiau eraill.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyrwyr yn defnyddio offer chwaraeon