Sgiliau Gwaith Saer - Mainc Picnic
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
4 awr
Sgiliau Gwaith Saer - Mainc PicnicDysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Trwy sesiynau ymarferol byddwch yn dysgu sut i ddylunio i raddfa, mesur a marcio pren ar gyfer adeiladu mainc bicnic. Bydd sgiliau torri, llyfnu a phlaenio yn cael eu datblygu, ac yna gwneud uniadau a gosod gosodiadau a defnyddio gludyddion. Yn olaf, byddwch yn cydosod y fainc, ac yn dysgu sut i ddewis a gosod gorffeniadau priodol, a chynnal arolygiad terfynol o'r gwaith. Byddwch yn gweithio ar sgiliau rhifedd yn ystod y sesiynau hyn, ac yn ennill sgiliau a gwybodaeth gwaith saer.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Lluosi