Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynhyrchu Cyfryngau (Teledu a Ffilm) Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor (Campws Newydd), Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Cofrestrwch
×

Cynhyrchu Cyfryngau (Teledu a Ffilm) Lefel 3

Dysgwyr sy'n Oedolion

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

A oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gyrfa werth chweil yn y diwydiant ffilmiau? Neu a hoffech fod yn un o'r genhedlaeth nesaf a fydd yn gweithio ar gynyrchiadau teledu?

Os oes gennych ddiddordeb byw ym myd teledu, ac os oes gennych restr o gyfarwyddwyr ffilmiau sy'n eich ysbrydoli, mae'n bosib mai dyma'r cwrs i chi.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau yn y gweithdy
  • Dysgu drwy wneud gwaith ymarferol
  • Darlithoedd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Gwaith ymarferol
  • Cynyrchiadau gorffenedig
  • Tystiolaeth o waith ymchwil
  • Cyflwyniadau

Cewch adborth ysgrifenedig ar eich holl aseiniadau, ynghyd â manylion eich gradd a chyngor ar sut i'w gwella.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych nifer o ddewisiadau academaidd a phroffesiynol.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gradd Sylfaen (FdA) Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Darlledu

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Dwyieithog:

n/a

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Myfyrwyr yn defnyddio camera teledu
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date