Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr yr wythnos am 15 wythnos
Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 3Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bwriad y cymhwyster Lefel 3 mewn Terminoleg Feddygol yw atgyfnerthu'r sgiliau a'r wybodaeth a drafodwyd ar Lefel 2. Mae'r uned yn cynnig dealltwriaeth fwy trwyadl o'r derminoleg dan sylw gan arwain at ddilyniant uwch.
Ystyrir dealltwriaeth dda o'r Saesneg yn fanteisiol gyda phwyslais neilltuol ar gywirdeb wrth sillafu.
Gall cymhwyster Lefel 3 mewn Terminoleg Feddygol eich helpu i lwyddo i symud ymlaen drwy system band cyflog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn swydd weinyddol mewn sefydliad o unrhyw fath neu faint yn y GIG, gan gynnwys fel: Ysgrifennydd/Gweinyddwr.
Gofynion mynediad
Gradd Llwyddo ar Lefel 2 Terminoleg Feddygol.
Cyflwyniad
Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion ysgrifenedig/gweithgareddau, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill.
Asesiad
Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.
Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o dystiolaeth; asesiadau; cwestiynau atebion byr.
Dilyniant
Dilyniant:
- Ystyriaethau Meddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 3
- Sgiliau Cyfathrebu Meddygol, Lefel 3
- Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 3
- Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: