Cymhwyster Uwch Lefel 3 BTEC mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu (Chwaraeon Moduro)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
2 flynedd
Cymhwyster Uwch Lefel 3 BTEC mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu (Chwaraeon Moduro)Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar y cwrs hwn, cewch feithrin y sgiliau a'r wybodaeth dechnegol a chwblhau hyfforddiant a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa, prentisiaeth neu radd prifysgol ym maes Chwaraeon Moduro.
Darperir yr hyfforddiant mewn gweithdai peirianneg sy'n cyrraedd safon y diwydiant a dosbarthiadau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg. Byddwch yn treulio 150 o oriau ychwanegol ar leoliadau yn y diwydiant yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Nod y cwrs yw datblygu Peirianwyr Chwaraeon Moduro'r dyfodol. Bydd rhai unedau yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r maes technoleg cerbydau a bydd unedau eraill yn canolbwyntio ar fathemateg, gwyddoniaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i wella perfformiad cerbydau.
Yn ogystal â gwneud cwrs sgiliau galwedigaethol BTEC sydd gyfwerth â 1.5 gradd Safon Uwch ym mlwyddyn 1, bydd cyfleoedd i wirfoddoli fel swyddogion diogelwch mewn ralïau chwaraeon moduro, i addasu cerbyd ffordd i Safon Rali a chymryd rhan fel Peiriannydd Chwaraeon Moduro ar drac rasio, gyda Cherbyd Rali'r coleg sydd wedi'i addasu gennych chi.
Gofynion mynediad
Mae'n rhaid bod gennych ddiddordeb ac angerdd am Chwaraeon Moduro.
I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 5 TGAU gradd A*- C gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg neu Rifedd a phwnc Gwyddoniaeth.
- Wedi cwblhau'r cwrs Peirianneg Lefel 2
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Sesiynau ymarferol yn y gweithdy
- Sesiynau yn y dosbarth
- Gwaith â phwyslais ar y myfyriwr
- Arddangosiadau
- Trafodaethau
- Tiwtorialau
- Amgylchedd dysgu rhithwir
- Bydd yn rhaid i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ail-sefyll TGAU
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Arsylwadau a thasgau yn seiliedig ar theori
- Portffolio o dystiolaeth
- Aseiniadau
- Lefel mwynhad a brwdfrydedd
- Datblygiad personol
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran beth i'w wneud nesaf gan gynnwys:
- Cwblhau blwyddyn atodol er mwyn ennill Diploma Estynedig (yn cyfateb i 3 gradd Safon Uwch)
- Prentisiaeth Cerbydau Modur neu Chwaraeon Moduro
- Gradd mewn Peirianneg Cerbydau Modur neu Chwaraeon Moduro yn y Brifysgol (rhaid cwblhau Blwyddyn 2)
- Rôl yn y diwydiant cerbydau modur
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Llangefni