Nadolig Llawn Blodau: Creu gosodiad canol bwrdd Nadoligaidd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
Nadolig Llawn Blodau: Creu gosodiad canol bwrdd NadoligaiddDysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ymunwch â ni am weithdy creadigol i oedolion, lle byddwch chi'n dysgu sut i greu gosodiad canol bwrdd Nadoligaidd eich hun. Cynhelir y cwrs yn ystod y dydd yn ystod oriau ysgol, a bydd y sesiwn untro hon yn cyflwyno technegau hanfodol gosod blodau i chi ynghyd ag awgrymiadau am flodau tymhorol a pha liwiau sydd orau i godi hwyliau eich dathliadau. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer pob lefel ac yn cynnig awyrgylch hamddenol a Nadoligaidd i ryddhau eich creadigrwydd. Darperir yr holl ddeunyddiau, dewch â hwyl yr ŵyl gyda chi. Byddwch yn gadael y cwrs gydag addurn hardd cwbl bersonol i chi a fydd yn creu cryn argraff ar eich gwesteion. Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn mesur a chyfrifo hyd y coesau a dimensiynau'r darn canol, gan gryfhau eu dealltwriaeth o fesur ac ymwybyddiaeth ofodol. Yn ogystal â hyn, bydd dysgwyr yn ymarfer eu gallu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau mewn cyd-destun creadigol.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Lluosi