Tystysgrif CACHE L2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
17 wythnos, 3 diwrnod yr wythnos
Tystysgrif CACHE L2 mewn Cefnogi Addysgu a DysguDysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn ar gyfer rhai sydd yn gweithio mewn ysgol dan oruchwyliaeth neu rai sydd eisiau gweithio mewn ysgolion.
Gofynion mynediad
- Wedi cwblhau 'Cyflwyniad i Fod yn Gynorthwyydd Dosbarth' a/neu brofiad hir o weithio mewn ysgol.
- Sgiliau Llythrennedd Lefel 1 cryf neu lefel cyfwerth
Bydd gofyn i chi hefyd fod yn gweithio mewn ysgol neu'n gwirfoddoli mewn awyrgylch ysgol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs lefel 2 hwn gan amlaf yn y coleg mewn sesiynau dosbarth, gweithgareddau ymarferol a thiwtorialau ac yn cynnwys lleoliad gwaith 2 ddiwrnod mewn ysgol.
Asesiad
Mae angen cyflwyno portffolio o waith yn dangos gwybodaeth ysgrifenedig a chaiff sgiliau eu hasesu drwy arsylwadau uniongyrchol ar leoliad gwaith mewn ysgol.
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Dyfarniad Lefel 3 NCFE CACHE mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu FfCCh
- Dyfarniad Lefel 2 NCFE CACHE mewn Cefnogi Pobl sydd ag Anableddau Dysgu
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Hyfforddiant Athrawon
Dwyieithog:
n/aHyfforddiant Athrawon
