Prentisiaeth - Gwaith Niwclear (Monitro Ffiseg Iechyd) - Diploma Amddiffyn rhag Ymbelydredd Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
24 mis
Prentisiaeth - Gwaith Niwclear (Monitro Ffiseg Iechyd) - Diploma Amddiffyn rhag Ymbelydredd Lefel 2Prentisiaethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn yn cydnabod sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd unigolion sy'n gweithio ym maes diogelu rhag ymbelydredd a Monitro Ffiseg Iechyd. Fe'i hanelir at ddysgwyr sy'n staff technegol, ond a all hefyd fod yn gweithio mewn ystod eang o swyddi cefnogol. Yn ogystal, bydd yn cynorthwyo cyflogwyr i gydymffurfio â Rheoliadau Statudol Ymbelydredd Ïoneiddio 2017. Rhaid cwblhau 14 uned, yn cynnwys:
- Monitro peryglon a chyflyrau'n ymwneud ag ymbelydredd
- Monitro'r amgylchedd
- Monitro pobl wrth iddynt weithio gydag ymbelydredd
- Gwneud gwaith sy'n ymwneud ag ymbelydredd
- Ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag ymbelydredd
- Profi offer sy'n diogelu rhag ymbelydredd
Gofynion mynediad
- Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
- Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
Symud ymlaen o Lefel 2 i rôl goruchwyliwr ar Lefel 3.
Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith
Tasgau a gyflawnir: Mae 12 uned orfodol yn ogystal ag unedau dewisol ac arsylwadau'n rhan o'r fframwaith
Ymateb i ddigwyddiadau'n ymwneud ag ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (cymhwysedd)
Sut i ymateb i ddigwyddiadau'n ymwneud ag ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (gwybodaeth)
Monitro peryglon ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (cymhwysedd)
Sut i fonitro peryglon ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (gwybodaeth)
Monitro amodau'r ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (cymhwysedd)
Sut i fonitro'r amodau ymbelydredd yn ystod gweithgareddau gwaith mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (gwybodaeth)
Monitro pobl yn ystod gweithgareddau gwaith yn ymwneud ag ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (cymhwysedd)
Sut i fonitro pobl yn ystod gweithgareddau gwaith yn ymwneud ag ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (gwybodaeth)
Monitro'r amodau amgylcheddol yn ystod gweithgareddau gwaith yn ymwneud ag ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (cymhwysedd)
Sut i fonitro'r amodau amgylcheddol yn ystod gweithgareddau gwaith yn ymwneud ag ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (gwybodaeth)
Monitro gweithrediad offer i amddiffyn rhag ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (cymhwysedd)
Sut i brofi gweithrediad offer i amddiffyn rhag ymbelydredd mewn amgylcheddau ymbelydredd ïoneiddio (gwybodaeth)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
n/a