Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Mae hyfforddiant undydd ar gael ar gyfer y cymhwyster OFTEC 105E.

    Dylai un diwrnod fod yn ddigon i gwblhau'r asesiad ar gyfer OFTEC 105E (ar ben unrhyw hyfforddiant a wnaed).

Gwnewch gais
×

OFT105E

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cynnwys y Cwrs:

  • Gofynion diogelwch
  • Rheoliadau Adeiladu
  • Mathau o olew a sut i'w hadnabod
  • Storio olew mewn dur a thermoplastig
  • Pibellau darparu cyflenwad tanwydd
  • Dyluniad system, yn cynnwys Rhan L1 y Rheoliadau Adeiladu
  • Dulliau rheoli thermostatig
  • Mesuryddion a larymau gorlenwi
  • Problemau halogiad olew
  • Lleoliad boeleri olew
  • Safonau Prydain
  • Awyru
  • Ffliwiau
  • Arbed ynni

SYLWCH: Nid yw'r cymhwyster OFTEC 105E yn cynnwys gwaith pibellau a falfiau tân mwyach. Mae'r elfennau hyn yn rhan o'r cymhwyster OFTEC 600A Tanciau Olew.

Gofynion mynediad

Rhaid i'r sawl sydd am ddilyn y cwrs hwn fod un ai'n weithwyr profiadol ym maes olew, neu fod ar gofrestr GAS SAFE o weithredwyr systemau gwresogi. (SYLWCH: Bydd angen cyflwyno tystiolaeth o gymwysterau blaenorol ar ddechrau'r cwrs.)

Rhaid i unrhyw un sy'n cyflawni'r asesiad un ai feddu ar y cymhwyster 600A Tanciau Olew eisoes neu ymgeisio am y cymhwyster ochr yn ochr â'r asesiad hwn.

Dylai unrhyw un sy'n newydd i'r diwydiant olew ystyried dilyn ein cwrs OFTEC 50 - Cyflwyniad i'r sector olew - ar gyfer newydd-ddyfodiaid.

Cyflwyniad

Gweithdy ymarferol a gwaith cwrs theory.

Asesiad

Asesiad o waith ymarferol a phapur o gwestiynau aml-ddewis

Dilyniant

Bydd y dysgwyr sy'n cwblhau'r asesiad yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i ymuno â chynllun Unigolion Cymwys OFTEC

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'