Cymorth Cyntaf Paediatrig - Dyfarnaid Lefel 3 (2 ddiwrnod)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, CIST-Llangefni, Parc Menai - Busnes@LlandrilloMenai, Llwyn Brain
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 ddiwrnod (12 awr)
Cymorth Cyntaf Paediatrig - Dyfarnaid Lefel 3 (2 ddiwrnod)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn yn addas i ddysgwyr sy'n dymuno bod yn swyddogion cymorth cyntaf pediatrig yn y gweithle gyda chyfrifoldeb am les babanod a phlant. Mae cynnwys y cwrs yn cyd-fynd â'r maes llafur cymorth cyntaf pediatrig yn y Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar.
Cost £175
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
- Rhaid i chi fod yn o leiaf 14 mlwydd oed
- Rhaid wrth agwedd feddyliol a gallu corfforol i allu ymgymryd â'r tasgau ymarferol
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy
- Gwaith grŵp
- Asesiadau ymarferol
- Chwarae rôl
- Senarios
- Addysgu ffurfiol / theori
- Arholiad
Mae'r cymhwyster yn cynnwys 2 uned orfodol. Rhaid i chi lwyddo yn y ddwy uned i ennill y cymhwyster.
Ymdrinnir â phynciau megis rolau a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf pediatrig, sut i roi cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy'n anymatebol, sut i adfywio'r galon a'r ysgyfaint yn ogystal â defnyddio diffibriwlwr allanol awtomatig. Mae hefyd yn ymdrin â rhoi cymorth cyntaf i faban neu i blentyn sy'n tagu, sydd wedi torri asgwrn neu sy'n wynebu unrhyw gyflwr arall megis llosg, sioc drydanol a gwenwyno sydyn.
Asesiad
Asesiad mewn amrywiol ddulliau gan eich tiwtor neu'ch asesydd, gan gynnwys:
- profion ymarferol
- asesiadau sy'n seiliedig ar dasgau
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Cymhwyster ym maes gofal plant
- Cyrsiau cymorth cyntaf eraill (oedolion).
Mae'r cymhwyster yn ddilys am gyfnod o dair blynedd, ac yna bydd gofyn i'r dysgwyr wneud y cwrs eto.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
n/aIechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: