PASMA - Mynediad Lefel Isel (E-DDYSGU)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell, CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 Diwrnod
PASMA - Mynediad Lefel Isel (E-DDYSGU)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Y rhai sy'n gweithio o unedau parod o dan 2.5m o uchder.
Mae'r modiwl e-ddysgu hwn yn ddelfrydol ar gyfer yr unigolion hynny nad sydd eisiau treulio amser i ffwrdd o'u swydd / gweithle.
I gymryd mantais o hyn, dilynwch y camau isod;
Cysylltwch gyda ni ar 0845 460 460 - ar yr adeg yma codir cost lawn y cwrs arnoch.
Cwblhewch y modiwl e-ddysgu theori y gellir ei wneud unrhyw bryd, unrhyw le, ac ar unrhyw ddyfais, ar gyflymdra sy'n gweddu i chi. (Yn gydnaws gyda CP, Macs, cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar ar unrhyw borwr rhyngrwyd modern)
Unwaith i chi gwblhau a phasio yr e-ddysgu yn llwyddiannus cysylltwch gyda ni i archebu eich hyfforddiant a'ch asesiad ymarferol yn ein Canolfan a gymeradwyir gan PASMA - gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o gwblhad llwyddiannus o'r dystysgrif e-ddysgu a grëir/argreffir ar ddiwedd eich e-ddysgu.
*Mae'n ofynnol i gyfranogwyr i fynychu ein Canolfan hyfforddi a gymeradwyir gan PASMA o fewn 90 niwrnod i gwblhau'r modiwl e-ddysgu i sefyll eu harholiad theori ac ymgymryd â hyfforddiant ac asesu ymarferol [cynyddwyd hyn tros dro o ganlyniad i Covid-19].
Bydd angen i chi ddod a chopi o'ch "tystysgrif cwblhau" i'r cwrs i'r hyfforddwr i ddilysu, heb hyn gwrthodir mynediad i chi.
Wrth gael mynediad i'r cwrs, gofynnir i chi gwblhau holiadur llyfr-agored aml ddewis sydd yn seiliedig ar y wybodaeth a enillwyd o'r e-ddysgu. Dilynir hyn gan sesiwn hyfforddi ac asesu ymarferol, gyda'r hyd yn ddibynnol ar wybodaeth a phrofiad.
Gofynion mynediad
Unwaith i chi gwblhau'r e-ddysgu, rhaid i chi hefyd gwblhau'r asesiad ymarferol a'r profi yn ein Canolfan wedi ei gymeradwyo gan PASMA. Wedi cyflawni'r tair rhan yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud cais am eich Ardystiad/Cerdyn Adnabod PASMA.
Nid yw cwblhau'r e-ddysgu yn unig yn eich cymhwyso fel defnyddiwr twr; mae safonau diwydiannol yn gofyn am y wybodaeth a enillwyd yn y sesiwn theori e-ddysgu ac asesu cydosod a defnyddio'r offer i ddangos medrusrwydd.
Cyflwyniad
Dysgu drwy gymysgedd o e-ddysgu, ac ymarferion ymarferol
Asesiad
- Cwblhau modiwl e-ddysgu ar-lein
- Holiadur aml-ddewis llyfr agored sydd yn seiliedig ar y wybodaeth a enillwyd o'r e-ddysgu.
- Cwblhau asesiad ymarferol
Dilyniant
Cyrsiau eraill a gynigir gan y Grwp
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/a
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig