Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Bydd hyd y rhaglen yn dibynnu ar ofynion unigol y dysgwr. Ni fydd yn hwy na 4 blynedd.

Gwnewch gais
×

Llwybr 2 - Sgiliau Bywyd a Gwaith

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Glynllifon

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs yw canolbwyntio ar gyflawniadau unigolion er mwyn meithrin eu hunanhyder a'u sgiliau bywyd ymarferol. Bydd dysgwyr yn cael eu dysgu mewn grwpiau bach, a bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael iddynt os oes angen. Defnyddir cyfleusterau'r coleg, yn ogystal â lleoedd eraill o ddiddordeb. Mae'r dysgu'n digwydd mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol ac rydym yn gweithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr, yn ogystal â sefydliadau proffesiynol, i gefnogi dysgwyr.

Dysgir sgiliau rhifedd a llythrennedd drwy ddefnyddio tasgau sy'n gysylltiedig â bywyd bob dydd. Rhoddir pwyslais hefyd ar feithrin annibyniaeth, a sgiliau personol a chymdeithasol. Caiff gweithgareddau menter eu plethu i elfennau o'r cwrs.

Caiff amserlen y dysgwyr ei threfnu ar sail pedwar piler Sgiliau Byw'n Annibynnol:

  • Sgiliau Byw'n Annibynnol
  • Iechyd a Lles
  • Mynediad i'r Gymuned
  • Sgiliau Cyflogadwyedd

Gofynion mynediad

Gweithio ar Garreg Filltir 4 - Mynediad 2.

Mae cynnig lle ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd trosiannol a chyfeiriad gan Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol Ysgolion, Ysgolion Arbennig, Ysgolion a Cholegau Arbenigol annibynnol a Gyrfa Cymru

Dysgwyr dilyniant mewnol: Wedi cwblhau rhaglen ddysgu ac yn gweithio ar lefel Mynediad 2. Mewn rhaglenni nad ydynt yn cael eu hachredu byddwch yn cwblhau asesiad rhifedd a llythrennedd er mwyn Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad (RARPA). Yn ogystal, yn ystod y digwyddiad pontio, byddwch yn cymryd rhan mewn asesiad sy'n cael ei arsylwi fydd yn ein helpu i gytuno ar dargedau priodol.

Llythrennedd / Rhifedd: Llythrennedd a Rhifedd M1/M2 WEST

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o weithgareddau ymarferol a gwaith dosbarth sy'n hyrwyddo annibyniaeth dysgwyr, eu hyder a'u sgiliau cymdeithasol ynghyd â'u gallu i ddewis a gwneud penderfyniadau. Caiff y dysgwyr eu dysgu mewn grwpiau bach.

Asesiad

Gall dysgwyr ddilyn rhaglen nad yw'n cael ei hachredu, neu os yw hynny'n briodol fe allant gwblhau cymhwyster addas arall. Ar ôl gosod a chytuno ar dargedau unigol, gall dysgwyr gael eu hasesu drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau sy'n bodloni eu hanghenion dysgu unigol.

Dilyniant

Cyfleoedd dysgu neu hyfforddi pellach os yw hynny'n briodol.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Nod y cwrs yw:

  • datblygu hunan-hyder ac annibyniaeth dysgwyr
  • gweithio ar sgiliau rhifedd, sgiliau llythrennedd a 4 Piler y cwricwlwm SBA; Sgiliau Byw'n Annibynnol; cymuned; byw iach a sgiliau cyflogadwyedd.
  • darparu profiad gwaith/profiad gwaith wedi'i gysgodi sy'n gysylltiedig â'u diddordebau a'u sgiliau personol.
  • datblygu sgiliau rhyngweithiad cymdeithasol drwy e.e. trip preswyl blynyddol, cyfranogiad cymuned gweithredol a chynhwysiad.
  • cefnogi dysgwyr i'w galluogi i fynd ymlaen i Cam i Waith sy'n ymwneud yn bennaf gyda chael mynediad i brofiad gwaith/profiad gwaith wedi'i gysgodi.
  • gweithio yn effeithiol gyda phobl broffesiynol a darparwyr gwasanaeth i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ac o'r coleg.

Gwybodaeth campws Glynllifon

Gwybodaeth campws Llangefni

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Yn meithrin dysgwyr i'w galluogi i:

  • Gwneud dewisiadau gwybodus a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwneud penderfyniad i hybu eu hannibyniaeth.
  • I fagu eu hunan-hyder ac i feithrin sgiliau byw'n annibynnol - sgiliau arian, amser, dilyn cyfarwyddiadau, ac ati.
  • Darganfod eu diddordebau mewn ystod o gyfleoedd profiad gwaith.
  • Gweithio tuag at dargedau wedi'u teilwrio unigol drwy weithgareddau o fewn y sesiynau canlynol: Gweithgareddau Celf a Chrefft, gweithgareddau Adeiladu Sgiliau, Garddio Ymarferol, Chwaraeon Ymarferol, Coginio Ymarferol, cyfleoedd dysgu Awyr Agored a Sgiliau Bywyd Ymarferol yn ein fflat pwrpasol.
  • Mynd ymlaen i'n cwrs Paratoi at Weithio sy'n rhaglen gyflogaeth gyda chymorth ac mae'n ddilyniant o'r llwybr Sgiliau Bywyd a Gwaith. Mae'r cwrs hwn yn galluogi'r dysgwyr i feithrin sgiliau byd gwaith sy'n arwain yn y pen draw ar amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Mae'r cyrsiau Paratoi at Weithio'n golygu un diwrnod yn y coleg a dau ddiwrnod o brofiad gwaith.

Yn darparu:

  • Mynediad i leoliadau profiad gwaith priodol yn y gymuned leol.
  • Ymweliadau Addysgol - yn gysylltiedig gyda 4 Piler y cwricwlwm SBA.
  • Sgiliau Bywyd Ymarferol - coginio ymarferol yn ein cegin SBA, Sgiliau Byw Annibynnol yn ein fflat pwrpasol yng Nghanolfan Marl, hyfforddiant mewn defnyddio bysiau cyhoeddus, sgiliau arian, ac ati.
  • Sesiynau blasu llwybrau cyflogaeth mewn paratoad ar gyfer dilyniant i'n Rhaglenni Paratoi ar Weithio - ar hyn o bryd yn cynnig llwybrau galwedigaethol mewn chwaraeon, hamdden, lletygarwch, arlwyo, garddwriaeth a manwerthu.
  • Hyfforddiant Ymarferol ym maes Chwaraeon
  • Sesiynau dysgu awyr agored a all o bosib arwain at gymryd rhan yng Ngwobr Efydd Dug Caeredin.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Sgiliau Bywyd a Gwaith

Dwyieithog:

n/a

Sgiliau Bywyd a Gwaith

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sgiliau Bywyd a Gwaith

Myfyrwyr yn planu planhigion