Llwybr 4 - Rhaglen Interniaeth â Chymorth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dolgellau, Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, ASDA
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Llwybr 4 - Rhaglen Interniaeth â ChymorthLlawn Amser (Addysg Bellach)
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae hon yn rhaglen interniaeth un flwyddyn sydd yn cefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu awtiaeth, gan eu galluogi i ennill i sgiliau a'r profiad i symud i waith cyflogedig.
Nod yr interniaethau wedi eu cefnogi yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth a thal drwy:
- Eu cefnogi i ddatblygu sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr.
- Eu galluogi i ddangos eu gwerth yn y gweithle.
- Datblygu hyder yn eu galluoedd eu hunain i berfformio'n llwyddiannus yn y gwaith.
Gofynion mynediad
Gall rhieni/gofalwyr/sefydliadau cyflogaeth a sefydliadau trydydd sector sy'n cefnogi oedolion ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i drosglwyddo i fyd gwaith wneud ceisiadau hefyd.
Cyflwyniad
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno o fewn y busnes sy'n croesawu. Bydd yr interniaid yn cael eu dysgu'n ffurfiol ar ddechrau a diwedd pob dydd.
Asesiad
Ar ôl gosod a chytuno ar dargedau unigol, Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu o fewn eu hinterniaethau. Gall dysgwyr gwblhau cymhwyster ffurfiol os yn briodol i'w canlyniadau cyflogaeth.
Dilyniant
Gwaith Cyflogedig.
Gwybodaeth campws Dolgellau
Sgiliau i Waith
Mewn partneriaeth gydag Agoriad Cyf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Yn seiliedig ar y model interniaeth "Engage to Change" Agoriad Cyf. Yr hyfforddiant yn ymgorffori'r sgiliau craidd, Cyflogadwyedd (yn bennaf), Iechyd a Lles, Sgiliau Byw Annibynnol, y Gymuned, Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol. Mae gan interniaid interniaethau gyda chyflogwyr lleol.
Fel rhan o'r amserlen, bydd yr holl interniaid yn cymryd rhan mewn ymarfer "Cyfranogiad Cymuned" hanner ffordd drwy'r rhaglen lle byddant yn cymryd rhan weithredol mewn rôl gwirfoddoli yn yr ardal leol.
Gwybodaeth campws Ysbyty Glan Clwyd
Gan weithio mewn partneriaeth nod y rhaglen yw paratoi interniaid ar gyfer Byd Gwaith. Mae dysgwyr yn gweithio yn yr ysbyty fel interniaid ac yn profi hyd at dri chylchdro o fewn gwahanol adrannau. Mae llwyddiant y rhaglen dros y 3 blynedd diwethaf wedi arwain at ganran uchel o'r dysgwyr yn cael gwaith gyda gwaith cyflogedig.
Gwybodaeth campws Ysbyty Gwynedd
Gan weithio mewn partneriaeth nod y rhaglen yw paratoi interniaid ar gyfer Byd Gwaith. Mae dysgwyr yn gweithio yn yr ysbyty fel interniaid ac yn profi hyd at dri chylchdro o fewn gwahanol adrannau. Mae llwyddiant y rhaglen dros y 3 blynedd diwethaf wedi arwain at ganran uchel o'r dysgwyr yn cael gwaith gyda gwaith cyflogedig.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Sgiliau Bywyd a Gwaith
Dwyieithog:
n/a
Sgiliau Bywyd a Gwaith
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: