Llwybr i Iechyd a Gofal
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Llwybr i Iechyd a GofalDisgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector Iechyd a Gofal? Hoffech chi gael gyrfa'n gweithio mewn cartrefi gofal, ysbytai, meithrinfeydd neu leoliadau gofal eraill? Ar y rhaglen hon, cewch astudio a dysgu sgiliau yn y pynciau a ganlyn:
- Cyflwyniad i sgiliau magu plant
- Ymwybyddiaeth o fagu plant
- Agweddau a gwerthoedd ar gyfer datblygiad personol
- Cyflwyniad i ymwybyddiaeth o alcohol a chyffuriau
- Delio â phroblemau mewn bywyd bob dydd
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden
- Byw'n iach
- Cyflwyniad a hylendid personol
- Ymddygiad yn y gwaith
- Cyfathrebu Effeithiol
- Ymwybyddiaeth o'r amgylchedd
Yn ystod y flwyddyn byddwn ni'n eich helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer byd gwaith neu astudio ymhellach yn y coleg. Cewch hefyd gyfle i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio gydag eraill. Byddwn yn eich helpu i feithrin y sgiliau hyn trwy wahanol weithgareddau a thripiau.
Cymhwyster City & Guilds mewn Sgiliau Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol a Chymdeithasol yw'r prif gymhwyster, yn ogystal â chymwysterau Mathemateg a Saesneg.
Bydd Tiwtor Personol yn eich helpu i drefnu'ch astudiaethau ac yn eich cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos.
Byddwn yn cyflwyno'r cwrs drwy gyfrwng darlithoedd, trafodaethau, astudiaethau achos, ymweliadau a thripiau allanol, dysgu rhyngweithiol, astudio unigol, gwaith grŵp a llawer o ddulliau eraill i wneud y dysgu'n brofiad y byddwch yn ei fwynhau.
Rydym yn defnyddio sawl dull asesu. Mae'n bosib y byddwch yn ymwybodol o rai ohonynt ac efallai y bydd eraill yn brofiad newydd. Bydd y rhain yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau mewn grŵp, cyflwyniadau, chwarae rôl, arsylwadau ar eich gwaith ymarferol ac, mewn rhai achosion, arholiadau
Gofynion mynediad
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn gan fyfyrwyr sydd ag un o'r canlynol:
- Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
- Yr awydd a'r penderfyniad i ennill cymhwyster.
- Profiad perthnasol yn y sector gofal
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, neu os hoffech drafod y gofynion mynediad hyn ymhellach, cysylltwch â'r gwasanaethau cymorth dysgu un ai'n uniongyrchol neu trwy'r cyfleuster sgwrsio. Bydd staff y gwasanaethau i ddysgwyr yn gallu trafod eich proffil gyda chi a rhoi cyngor ar y cyrsiau sydd ar gael.
Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu lyfr Chrome y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Trafodaethau
- Astudiaethau achos
- Ymweliadau addysgol
- Gwaith grŵp
- Astudio yn eich amser eich hun
- Dysgu yn y dosbarth
- Cefnogaeth tiwtor
- Google Classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)
Asesiad
Rydym yn defnyddio sawl dull asesu. Mae'n bosibl y byddwch yn gyfarwydd â rhai ohonynt ac efallai y bydd eraill yn brofiad newydd. Bydd y dulliau hyn yn cynnwys:
- Gwaith cwrs
- Aseiniadau grŵp
- Cyflwyniadau
- Chwarae rôl
- Arsylwadau
- Arholiadau, sef rhai TGAU yn bennaf
Dilyniant
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi llawer o ddewisiadau i chi. Bydd eich Tiwtor Personol yn gweithio gyda chi a Gyrfa Cymru i wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl gyfleoedd a dewisiadau sy'n bosibl i chi.
Os gwnewch chi gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r hyder i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Lefel 1 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel arall, gallech ddefnyddio'r cymhwyster i gael eich cyflogi ar lefel mynediad yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu brentisiaeth:
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dwyieithog:
n/a
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: