Llwybr i Sgiliau Adeiladu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Llwybr i Sgiliau AdeiladuDisgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa ymarferol yn un o'r crefftau adeiladu?
Mae'r rhaglen hon yn rhoi agoriad i chi i yrfa yn y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd am feithrin sgiliau adeiladu cyffredinol drwy gael profiad ymarferol.
Ar y rhaglen cewch gyfle i brofi amrywiaeth o alwedigaethau. Byddwch yn dysgu sgiliau crefft sylfaenol, ac yn cael eich paratoi ar gyfer cyflogaeth ac astudiaethau pellach. Ar ddiwedd y rhaglen, gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa faes technegol yr hoffech weithio ynddo.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- Bydd disgwyl i chi ddangos ymrwymiad i astudio trwy gwblhau blwyddyn 11 gyda phresenoldeb presenoldeb o leiaf 85%.
- Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth neu Gyn-alwedigaethol yn llwyddiannus gyda phresenoldeb o 85% o leiaf ac adroddiad da gan eich tiwtor
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys y modiwlau canlynol:
- Cymhwyster Cyn Sylfaen ym maes Adeiladu fydd yn cynnwys crefftau amrywiol fel plastro, gwaith brics, plymwaith, paentio, gwaith saer, yn dibynnu ar y campws a ddewiswch
- Sgiliau Hanfodol Cymru; Sgiliau Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu NEU TGAU (i ddysgwyr a gafodd radd D mewn un ai Saesneg, Mathemateg neu Gymraeg)
- Sesiynau tiwtora i grŵp ac unigolion
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwersi ymarferol a gwersi theori
- Amgylcheddau gwaith realistig
- Gweithdai arbenigol ar gyfer y gwahanol grefftau
- Darlithoedd
- Trafodaethau
- Tasgau llyfr gwaith
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Arsylwadau ar eich gwaith ymarferol
- Aseiniadau sy'n gofyn am wybodaeth a'r gallu i wneud tasgau ymarferol
- Portffolio o waith dosbarth
Dilyniant
Mae'r rhaglen yn rhoi mynediad i chi i'r cwrs Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu sy'n rhoi pwyslais ar o leiaf ddwy grefft ( i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch am y Cymhwyster Sylfaen )
Dilyniant i Brentisiaeth; os bydd dysgwyr yn llwyddo i gael prentisiaeth mewn disgyblaeth adeiladu yn dilyn y cwrs Cyn Sylfaen, bydd dal yn ofynnol iddynt gwblhau'r Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig