Celfyddydau Perfformio Lefel 1
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 blwyddyn
Celfyddydau Perfformio Lefel 1
Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn perfformio? Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau a'ch hyder?
Cynlluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno amrywiaeth o sgiliau perfformio yn cynnwys actio, symud, perfformio i gyd-destun cerddoriaeth a gweithio ar eich syniadau arloesol eich hun.
Byddwch yn meithrin gwybodaeth werthfawr i'r celfyddydau perfformio ac yn gallu gweithio mewn modd proffesiynol gyda phobl sy'n rhannu eich diddordebau.
Byddwch yn magu hyder dros gyfnod o amser, yn perfformio gyda'ch cyd-fyfyrwyr ac yn paratoi i berfformio o flaen cynulleidfa.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw ofynion blaenorol penodol a argymhellir ar gyfer y cymhwyster hwn.
Fodd bynnag, mae lleoedd ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad a chlyweliad.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
Gwaith grŵp
Dysgu yn y dosbarth ac yn y theatr
Cefnogaeth tiwtor
Ymweliadau addysgol
Ystafell Ddosbarth Google
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
Cyflwyniadau ac arddangosiadau
Portffolios a llyfrau logio gweithgareddau
Perfformio ac arsylwi
Dilyniant
Celfyddydau Perfformio Level 2
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Celfyddydau Perfformio
Celfyddydau Perfformio
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
