Celfyddydau Perfformio Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd), Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
2 flynedd
Celfyddydau Perfformio Lefel 3Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb byw mewn perfformio? Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau a'ch hyder?
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau perfformio yn cynnwys actio mewn nifer o arddulliau gwahanol, cyfarwyddo, sgriptio, perfformio theatr corfforol a pharatoi ar gyfer clyweliadau. Byddwch yn meithrin gwybodaeth werthfawr i'r celfyddydau perfformio ac yn gallu gweithio mewn modd proffesiynol gyda phobl sy'n rhannu eich diddordebau.
Bydd y cwrs yn addas i chi os ydych yn symud ymlaen o astudio TGAU neu gwrs Lefel 2 perthnasol. Yn ogystal â datblygu eich gallu cewch gyfle i ddod i ddeall y diwydiant perthnasol a pharatoi ar gyfer eich gyrfa.
.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 4 TGAU gradd C neu uwch, yn ddelfrydol i gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi fynychu cyfweliad i roi y cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a chlyweliad.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn y dosbarth ac yn y theatr
- Cefnogaeth tiwtor
- Ymweliadau addysgol
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
- Ystafell Ddosbarth Google
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios a llyfrau logio gweithgareddau
- Perfformio ac arsylwi
Dilyniant
Mae nifer o fyfyrwyr yn dewis parhau i ddatblygu eu sgiliau perfformio ar lefel uwch. Bydd eich dewisiadau yn cynnwys:
- Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) yn y Celfyddydau Perfformio (Actio)
- mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd mewn prifysgol
- hyfforddiant theatr technegol
- cyrsiau perfformio proffesiynol mewn colegau cerdd, dawns neu ddrama
Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y celfyddydau perfformio a meysydd eraill. Mae rhai cyn-fyfyrwyr yn gweithio fel cantorion, dawnswyr neu actorion proffesiynol, yn rheoli cwmnïau perfformio, rheolwyr adloniant, rheolwyr theatr, yn gweithio ym maes coreograffi a chelfyddydau cymunedol yn ogystal â rheoli ar fordeithiau, dysgu, gwerthu a'r sector dwristiaeth.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- International
- Celfyddydau Perfformio
Dwyieithog:
n/aCelfyddydau Perfformio
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: