Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Paratoi ar gyfer Addysg Bellach

Yn y maes hwn, mae’r ddau lwybr canlynol ar gael:

Paratoi ar gyfer Addysg Bellach

Ar y cyrsiau hyn bydd dysgwyr yn magu hyder i fod yn fwy annibynnol ac yn ennill sgiliau a fynd ymlaen i gyrsiau galwedigaethol pellach yn y coleg. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hanelu at ddysgwyr sy'n gadael yr ysgol ac sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau rhifedd a llythrennedd. O ran rhifedd a llythrennedd, bydd gofyn i ddysgwyr fod yn gweithio ar o leiaf lefel Mynediad 3 neu uwch. Bydd angen iddynt ddod i gyfweliad neu sesiwn rhagflas i wneud yn siŵr bod y cwrs yn addas ar eu cyfer, a bod â'r gallu i gyrraedd y coleg yn annibynnol.

Llwybr 4 - Rhaglen Interniaeth â Chymorth

Mae hon yn rhaglen interniaeth un flwyddyn sydd yn cefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu awtiaeth, gan eu galluogi i ennill i sgiliau a'r profiad i symud i waith cyflogedig.

Nod yr interniaethau wedi eu cefnogi yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth a thal drwy:

  • Eu cefnogi i ddatblygu sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr.
  • Eu galluogi i ddangos eu gwerth yn y gweithle.
  • Datblygu hyder yn eu galluoedd eu hunain i berfformio'n llwyddiannus yn y gwaith
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date