Prentisiaeth Uwch - Rheoli Prosiectau Lefel 4
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Prentisiaeth Uwch - Rheoli Prosiectau Lefel 4Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau yn cynnig llwybr cynnydd i rai sydd eisiau mynd i'r byd rheoli prosiectau neu ddefnyddio sgiliau rheoli prosiectau i wella eu gyrfa mewn maes arall. Mae'n cynnig cyfle da i wella cymhwysedd a llenwi bylchau sgiliau sydd wedi eu hadnabod eisoes. Mae'r bylchau yn cynnwys sgiliau rheoli rhanddeiliaid, delio a chymhlethdodau, sgiliau cyfathrebu a chymhwysedd technegol fel gosod amserlen i brosiect, asesu risg, ennill gwerth, cynllunio ac amcangyfrif.
Mae rheoli prosiect yn ddewis cyntaf fel gyrfa i nifer erbyn hyn. Yn y gorffennol, roedd nifer o bobl yn rheoli prosiectau ar ôl blynyddoedd o weithio mewn sectorau a swyddi gwahanol. Mae'r rhagdybiaeth bod rheoli prosiectau yn ddewis i'w wneud ar ganol eich gyrfa yn golygu nad oes llawer o gyfleoedd yn y maes i arweinwyr prosiect ifanc a medrus.
Mae nifer o ddyletswyddau rheoli o fewn prosiectau yn gallu cynnig cyfleoedd i bobl ifanc broffesiynol, a gall y rhain arwain at swyddi prosiect uwch dros gyfnod o amser. Bydd y Prentisiaethau Uwch yn cydnabod gwerth y gwaith hwn yn ffurfiol ac yn gosod sylfeini cadarn i'r genhedlaeth nesaf o reolwyr prosiectiau cymwys.
Gofynion mynediad
Mae angen i ddysgwyr fod yn rheoli prosiectau i gwrdd ag crieteria y cymhwyster hwn.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Gallai fod yn ofynnol dod i sesiynau yn y college i gwblhau profion a thasgau theori.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 ac yna i Brentisiaeth Uwch Lefel 4.
Ariannwyd y rhaglen hwn yn rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: