Prentisiaethau mewn Manwerthu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
16 mis
Prentisiaethau mewn ManwerthuPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cynlluniwyd fframweithiau'r brentisiaeth Manwerthu'n bennaf i ddatblygu sgiliau pobl sy'n gweithio ledled y sector manwerthu drwy roi cyfle iddynt feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol i wneud eu swyddi.
Diploma Sylfaen Lefel 2 mewn Manwerthu
Bwriadwyd y fframwaith hwn ar gyfer unigolion sy'n gynorthwywyr gwerthu cyffredinol mewn lleoliadau manwerthu ac ar gyfer rhai sydd mewn swyddi arbenigol e.e. ymgynghorwyr harddwch neu gynorthwywyr wrth gownteri bwyd ffres.
Prentisiaeth Lefel 3 mewn Manwerthu
Mae'r fframwaith hwn yn galluogi prentisiaid, a gyflogir mewn swyddi uwch ym maes manwerthu e.e. Uwch Gynorthwywyr Gwerthu, Arweinwyr Tîm, a Goruchwylwyr, i atgyfnerthu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd ganddynt yn barod. Bydd hyn yn eu galluogi i gyflawni gofynion eu swyddi presennol a bydd yn gymorth iddynt wneud cynnydd yn y sector manwerthu.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad ym maes Manwerthu'n ddymunol
- Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
- Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Manwerthu
Dwyieithog:
n/a