Celf Ewinedd mewn Salon
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Un diwrnod: 10am - 4pm
Celf Ewinedd mewn SalonDysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae hwn yn gwrs celf ewinedd rhagorol i'r rhai sy'n rhedeg salon a fydd yn eich galluogi i greu celf ewinedd cyflym a deniadol sy'n cyd-fynd â'r galw gan gleientiaid yn y salon heddiw.
Gan ddefnyddio cynhyrchion sydd gennych chi eisoes yn aml, byddwn yn eich haddysgu sut i ddefnyddio ffoiliau, gliter, inc, stampiau a phigment a pheth paentio llawrydd. Cwrs ymarferol yw hwn sy'n gweithio ar flaenau'r ewinedd, a byddwch yn creu llu o ddyluniadau. Mae'r lefel sgiliau ar lefel dechreuwr, ac mae'n caniatáu i chi ddefnyddio'r technegau a chreu llawer o ddyluniadau eraill. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n artistig, mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr.
- Dysgwch sut i farmori gydag inciau a geliau
- Gweithio gyda chynhyrchion newydd
- Dysgwch sut i greu dyluniadau cyfoes gan ddefnyddio technegau modern
- Sut i bennu pris eich celf ewinedd
- Creu dyluniadau gliter sy'n diflannu'n raddol, rhosod wedi'u paentio â llaw, marmori, dyluniadau pigment haniaethol, printiau anifeiliaid unigryw a rhagor
Gofynion mynediad
Dim
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs yn y salon yn Llangefni trwy gyfres o sesiynau arddangos. Yn dilyn pob sesiwn arddangos cewch amser i ail-greu’r edrychiad, gan ddefnyddio cynhyrchion a ddarperir ar y diwrnod. Bydd y tiwtoriaid wrth law i roi cymorth a chefnogaeth i chi, ac yn caniatáu i chi fynegi eich creadigrwydd.
Asesiad
Asesir yn ystod y cwrs.
Dilyniant
Rhagor o weithdai celf ewinedd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch