Prentisiaethau - Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes Lefel 3: 15 - 18 mis
Marchnata Digidol Lefel 3: 15 - 18 mis
Prentisiaethau - Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol Lefel 3Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae twf y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol yn gyfle i ddenu staff newydd i’r diwydiant ac i ddefnyddio a gwella sgiliau staff presennol fel bod ganddynt y wybodaeth a'r profiad i ymgymryd â dyletswyddau'n ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.
Marchnata Digidol Lefel 3
Mae unedau gorfodol y llwybr marchnata digidol yn canolbwyntio ar fusnes ac yn gyfle i feithrin dealltwriaeth o swyddogaethau busnes, ffynonellau gwerthu, teithiau cwsmeriaid a diffiniadau sector. Mae'r unedau dewisol wedi'u teilwra i'r ymgeiswyr a gallent gynnwys; datblygu brand, marchnata cynnwys, marchnata dros e-bost, creu copi testun ar gyfer y cyfryngau digidol, meddalwedd golygu delweddau ac egwyddorion y cyfryngau cymdeithasol o fewn busnes (a llawer mwy).
Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau Lefel 3
Mae'r llwybr cyfryngau cymdeithasol yn canolbwyntio ar reoli a chynnal rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol, asesu a lleihau risgiau i'ch presenoldeb ar-lein, deall sut i ddefnyddio geiriau allweddol ac optimeiddio peiriannau chwilio yn ogystal â sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu a hyrwyddo.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn TG yn ddymunol
- Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr neu fentor sydd â gwybodaeth berthnasol yn y maes pwnc a gall gynnig hyfforddiant ar y swydd.
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Ymgymerir â Lefel 3 yn y gweithle gyda phresenoldeb o bosibl i sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori (os oes angen).
Asesiad
- Cwblhau portffolio tystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
Ar ôl cwblhau Lefel 3 gallwch fynd ymlaen i Brentisiaeth Uwch.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: