Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Chwaraeon Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mawr mewn chwaraeon a ffitrwydd? Hoffech chi feithrin gwybodaeth fanwl yn y meysydd hyn?

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o chwaraeon a dulliau hyfforddi ac yn rhoi i chi sgiliau ymarferol ynghyd â dealltwriaeth ddamcaniaethol. Mae hyn yn cynnwys agweddau ar ddatblygiad chwaraeon, seicoleg chwaraeon, anatomeg a ffisioleg, ynghyd â threfnu digwyddiadau chwaraeon.

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag ystod eang o ddulliau chwaraeon a hyfforddi, gan roi sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol i chi. Byddwch yn ymchwilio i'r materion cyfredol mewn hyfforddi chwaraeon ac egwyddorion ffitrwydd. Mae hyn yn cynnwys agweddau ar ddatblygu chwaraeon, ymarfer corff ar gyfer grwpiau penodol, adnabod talent a threfnu digwyddiadau chwaraeon.

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn elwa o brofiad staff chwaraeon y Coleg, y mae llawer ohonynt yn ymarferwyr cyfredol yn eu priod feysydd. Bydd hyn yn eich galluogi i roi'r hyn a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth ar waith. Byddwch yn datblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau arwain i ddechrau eich gyrfa, neu i symud ymlaen i Addysg Uwch. Byddwch yn gallu gweithio neu astudio mewn meysydd fel datblygu chwaraeon, hyfforddi chwaraeon, hyfforddi ffitrwydd ac addysg gorfforol.

I gael gwybodaeth am ein Academïau Chwaraeon cliciwch yma Academïau a Chwaraeon

Sylwch: Rydym yn argymell eich bod yn gallu defnyddio gliniadur/Chromebook i alluogi cwblhau gwaith cwrs yn ddigidol gartref. Mae cronfa TG Cynhwysiant Digidol benodedig i gefnogi dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac na allant brynu un.

Gofynion mynediad

5 TGAU gradd A* - C neu uwch. Gorau oll os ydynt yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf). Dylech hefyd fod wedi cael gradd D neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd. Derbynnir cymwysterau cyfwerth, fel Teilyngdod ar Lefel 2 a TGAU mewn Saesneg neu Gyfathrebu a TGAU mewn Mathemateg neu Rifedd (neu gymhwyster cyfwerth) ar Lefel 2, e.e. cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif (Lefel 2).

Os nad ydych chi'n siŵr a oes gennych chi'r proffil gofynion mynediad, neu os oes gennych chi gymwysterau eraill sy'n cyfateb yn eich barn chi, cysylltwch â gwasanaethau dysgwyr trwy'r swyddogaeth sgwrsio neu'n uniongyrchol. Bydd gwasanaethau dysgwyr yn gallu trafod eich proffil a rhoi gwybod i chi am opsiynau cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gweithgareddau ymarferol ac awyr agored
  • Trafodaeth ystafell ddosbarth
  • Darlithoedd ffurfiol
  • Siaradwyr gwadd
  • Ymchwil unigol
  • Gwaith grŵp
  • Prosiectau
  • Cefnogaeth ac adnoddau ar-lein

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Asesiadau dan reolaeth
  • Arholiadau allanol

Dilyniant

Gellwch fynd ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch mewn nifer o sefydliadau ac astudio am gymwysterau uwch mewn Hyfforddi ym maes Chwaraeon, Gwyddor Chwaraeon neu Reoli ym maes Chwaraeon.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)
  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Hamdden Awyr Agored)

Gallech ymuno â'r diwydiant mewn meysydd megis datblygu chwaraeon, hyfforddi a hyfforddi personol. Gallech ymgeisio am swyddi gydag Awdurdodau Lleol ar raglenni atal gordewdra a bwyta'n iach neu gallech ymuno â'r lluoedd arfog neu'r gwasanaethau argyfwng.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Llangefni

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyrwyr yn defnyddio offer chwaraeon