Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau - Arwain Timau a Rheoli Lefel 2 a 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau - Arwain Timau a Rheoli Lefel 2 a 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r prentisiaethau Arwain Tîm (Lefel 2) a Rheoli (Lefel 3) wedi'u cynllunio i ddarparu cymhwyster hyblyg a throsglwyddadwy sy'n diwallu anghenion cyflogwyr o bob maint ym mhob sector yn awr ac yn y dyfodol. Datblygwyd y Brentisiaeth Sylfaenol mewn Arwain Tîm i gynorthwyo unigolion sy'n gweithio fel arweinwyr tîm, arweinwyr adrannol, rheolwyr llawr, rheolwyr desgiau cymorth, goruchwylwyr timau, neu'n gweithio fel arweinwyr tîm mewn amrywiaeth o swyddi eraill. Datblygwyd y Brentisiaeth mewn Rheoli i gynorthwyo unigolion sy'n gweithio fel rheolwyr llinell rheng flaen, rheolwyr adrannol, rheolwyr cynorthwyol, rheolwyr dan hyfforddiant, uwch-oruchwylwyr, neu'n gweithio fel rheolwyr mewn amrywiaeth o swyddi eraill. Bydd y tasgau a wneir yn amrywio'n ôl lefel a sector. Fodd bynnag, gall tasgau gynnwys cynllunio, dyrannu a monitro gwaith y tîm, rhoi adborth, briffio timau, cefnogi aelodau o'r tîm, rheoli gwrthdaro, datrys problemau, caffael, rheoli prosiectau, cytuno ar gyllidebau a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Gallai fod yn ofynnol dod i sesiynau yn y college i gwblhau profion a thasgau theori.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

Gallwch fynd ymlaen o Lefel 2 i Lefel 3, Lefel 4 ac yna i Level 5 (yn ddibynnol ar y swydd).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell