UAL Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio Sioeau Cerdd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 blwyddyn, hyd at 15 awr yr wythnos
UAL Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio Sioeau CerddDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd y sgiliau a ddatblygir yn ystod y cymhwyster hefyd yn cynorthwyo myfyrwyr sy'n bwriadu mynd ymlaen i weithio yn y diwydiannau creadigol.
Bydd y cymhwyster hwn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ymestyn a mireinio lefel eu sgiliau ymarferol, a diffinio eu diddordebau personol a maes arbenigedd.
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol i archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd mewn strwythur cymhwyster sydd yn ysgogi ac yn heriol, ac yn eu cynorthwyo i bontio i faes hyfforddiant uwch neu hyfforddiant.
Bydd y cwrs yn diffinio eich hunaniaeth artistig, yn cynnig cyfle i chi ganolbwyntio ar eich cryfderau, yn rhoi'r cyfle i chi weithio fel aelod o gwmni perfformwyr ac yn gorffen gyda pherfformiad arddangosfa o flaen cynulleidfa.
Gofynion mynediad
Mae hwn yn gwrs proffesiynol. Felly, fel arfer bydd angen i ymgeiswyr fod â thair Lefel A neu radd teilyngdod mewn cymhwyster galwedigaethol Lefel 3 cyfwerth. Yn ogystal, bydd angen i bob ymgeisydd ddod i glyweliad.
Cyflwyniad
Gweithdai arbenigol - Actio/Canu/Dawnsio a'r diwydiannau creadigol cyfredol. Gwaith grŵp a phrosiect oddi mewn i'r coleg ynghyd a thu allan mewn gosodiadau proffesiynol
Asesiad
Asesiad a perfformiad
Dilyniant
Hyfforddiant uwch neu hyfforddiant.
Bob blwyddyn mae myfyrwyr yn cymryd rhan ym mhrosiect 'It's My Shout' y BBC, ac fel rhan o'r prosiect maen nhw'n gweithio gyda thîm cynhyrchu sy'n cynnwys mentoriaid y diwydiant o 'It's My Shout' a BBC Cymru.
Cynhelir noson gan BBC Cymru i ddangos y ffilmiau i bawb oedd yn rhan o'r gwaith cynhyrchu'r ffilm.
Darlledir y ffilm wedyn ar BBC2 ac S4C yn ystod mis Tachwedd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Celfyddydau Perfformio
Dwyieithog:
n/a
Celfyddydau Perfformio
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: