Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 Diwrnod yr Wythnos (Dydd Mawrth)

    34 Wythnos Dros 12-18 Mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol Lefel 2

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cymhwyster Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol yw paratoi a chefnogi myfyrwyr ar gyfer gyrfa o fewn Practis Milfeddygol. Mae'n rhoi cyfle dilyniant* i'r Diploma L3 mewn Nyrsio Milfeddygol.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu gan Nyrsys Milfeddygol Cymwysedig profiadol yng nghyd-destun anifeiliaid bach (cŵn, cathod, cwningod, gerbilod, bochdewion a mamaliaid bach eraill a gall gynnwys ymlusgiaid, adar a chrwbanod).

Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys anatomeg a ffisioleg, iechyd anifeiliaid, dyletswyddau derbyn, iechyd a diogelwch, rheoli heintiau, trin anifeiliaid a chynorthwyo gyda gofal anifeiliaid.

Gofynion mynediad

O leiaf tri llwyddiant TGAU.

Gellir derbyn cymwysterau amgen os ydynt yn amlwg yn gyfwerth.

Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith cyflogedig mewn Clinig Milfeddygol am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Mae hyn yn cynnwys amser a dreulir yn y coleg. Rhaid i'r ymgeisydd dreulio 51 % o'i amser cyflogedig yng Nghymru.

Cyflwyniad

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Darlithoedd, i gwmpasu'r ddamcaniaeth

  • Profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig gydag amrywiaeth o anifeiliaid mewn cyfleusterau pwrpasol ar Gampws Glynllifon

  • Lleoliad gwaith a hyfforddiant gyda hyfforddwr clinigol dynodedig fel myfyriwr Nyrsio Milfeddygol cyflogedig ar sail rhyddhau diwrnod o fewn practis hyfforddi.

Sylwch: yn wahanol i'r cwrs L3 nid oes angen i'r practis fod yn bractis hyfforddi achrededig RCVS ar gyfer y cwrs hwn.


Asesiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth wedi'u hasesu gan:

Arholiadau amlddewis wedi'u gosod a'u marcio'n allanol x 2

Aseiniadau wedi'u Gosod yn Allanol wedi'u marcio gan Glynllifon x 3


Sgiliau ymarferol wedi'u hasesu gan:

Log cynnydd electronig yn seiliedig ar waith - Log Sgiliau Canolog

Dilyniant

Mae’r Diploma Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol yn gymhwyster ar ei ben ei hun sy’n galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i weithio fel Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol.

Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i Brentisiaeth Nyrsio Filfeddygol L3.

*Os nad oes gennych TGAU Gwyddoniaeth gradd C neu uwch bydd angen Teilyngdod arnoch ar y cwrs hwn i symud ymlaen i'r L3, ynghyd â'r gofynion mynediad eraill.

Gwybodaeth campws Glynllifon

Grŵp Llandrillo Menai yw Sefydliad Addysg Bellach mwyaf Cymru ac un o'r grwpiau colegau AB mwyaf yn y DU. Darperir hyfforddiant Nyrs Filfeddygol a Chynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol ar Gampws Glynllifon yng Ngogledd Cymru.

Mae safle Glynllifon yn 750 erw o fferm a choetir, gyda chanolfan anifeiliaid newydd ei hadeiladu yn cynnwys ystafelloedd darlithio/TG, ystafell feithrin, labordy ac ystafell ymarferol Nyrsio Milfeddyg. Bydd hyn yn caniatáu i'ch astudiaethau gael eu cynnal mewn lleoliad realistig.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Glynllifon

Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Myfyrwyr gyda neidr