Dyfarniad NVQ Lefel 2 VTCT mewn triniaethau Aeliau a Blew'r Amrannau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Y Rhyl
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
ORIAU DYSGU DAN ARWEINIAD 45
Caiff hyn ei gyflwyno fel model hybrid gyda rhai agweddau y byddwch yn eu dysgu eich hunan. Bydd gennych fynediad i wefan grŵp caeedig i gymryd rhan yn y cwrs. Cynhelir yr holl asesiadau ymarferol yn salon masnachol y coleg.
Dydd Mercher 1-4pm ar gampws y Rhyl. Y ffi yw £190 gan gynnwys arholiad. Bydd angen cit ar ddysgwyr - cost i'w gadarnhau
Dyfarniad NVQ Lefel 2 VTCT mewn triniaethau Aeliau a Blew'r AmrannauDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r uned hon ynglŷn â darparu triniaethau blew llygaid ac aeliau. Mae'n cynnwys y defnydd o amrywiaeth o dechnegau ymgynghori i sefydlu'r driniaeth a'r canlyniadau gofynnol gan y cleient. Byddwch angen medru darparu siapio aeliau a thriniaethau blew llygaid artiffisial gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau gwaith. Byddwch hefyd angen medru lliwio aeliau a blew llygaid ar gyfer cleientiaid gyda nodweddion lliwio gwahanol (h.y. golau, coch, tywyll a gwyn).
Gofynion mynediad
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol o flaen llaw cyn i chi ymgymryd gyda'r cymhwyster hwn.
Cyflwyniad
Yn rhan o'r cymhwyster, mae gofyn i chi gynhyrchu portffolio tystiolaeth a all gymryd y ffurfiau canlynol:
- Gwaith a arsylwyd
- Datganiadau gan dystion
- Cyfryngau clyweledol
- Tystiolaeth o ddysgu neu gyrhaeddiad blaenorol
- Cwestiynau ysgrifenedig
- Cwestiynau llafar
- Aseiniadau
- Tystiolaeth astudiaethau achos.
Asesiad
Gwaith a arsylwyd
Un arholiad.
Dilyniant
Cyfleoedd gwaith
Diploma Lefel 2/3 mewn Harddwch
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch