Dyfarniad NVQ Lefel 3 VTCT mewn Coluro ar gyfer Byd Ffasiwn a Ffotograffiaeth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
20 wythnos - 3 awr
×Dyfarniad NVQ Lefel 3 VTCT mewn Coluro ar gyfer Byd Ffasiwn a Ffotograffiaeth
Dyfarniad NVQ Lefel 3 VTCT mewn Coluro ar gyfer Byd Ffasiwn a FfotograffiaethDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r rhaglen hon yn addas i chi os ydych am ddatblygu eich sgiliau coluro creadigol ar gyfer gweithio ym myd ffasiwn a ffotograffiaeth.
Gofynion mynediad
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol
Cyflwyniad
Dros gyfnod o 20 wythnos, ar nos Fercher, 5.00pm - 8.00pm
Byddwch yn gwneud gwaith theori a gwaith ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig.
Asesiad
Prif amcan y cymhwyster yw eich dysgu i:
- Gynllunio a dylunio edrychiadau amrywiol gyda cholur
- Defnyddio colur i gynhyrchu amrywiaeth o edrychiadau
- Gwerthuso eich canlyniadau yn erbyn y briff dylunio
Dilyniant
Dilyniant i gyrsiau byr eraill:
- Cwrs Harddwch Arbenigol, Lefel 2
- Harddu Ewinedd, Lefel 2
- Gosod Blew Amrannau Sengl Ychwanegol, Lefel 2
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dwyieithog:
Ar gael yn ddwyieithog
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch