VTCT Lefel 3 Darparu triniaethau trydanol i'r wyneb
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
6 awr am 16 wythnos
VTCT Lefel 3 Darparu triniaethau trydanol i'r wynebDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r rhaglen hon yn addas i chi os ydych am gynnig triniaethau electrotherapi i'r wyneb i'ch cleientiaid a'ch bod yn awyddus i ddysgu rhagor am yr offer electronig a ddefnyddir.
Mae’r cwrs yn cynnwys amryw o driniaethau electrotherapi sy'n trin yr wyneb, y gwddf a'r décolleté, er enghraifft:
- Galfanig
- Ffaradig
- Micro-sgraffinio
- Sugno
- CACI (micro-gerrynt)
- Amledd uchel
- Microffleimio
I gael rhagor o wybodaeth am driniaethau unigol edrychwch ar ein tudalen Facebook sef 'Salon Menai'
Gofynion mynediad
- Cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth mewn Gofalu am y Croen
- Rhaid gallu rhoi triniaethau i'r wyneb a bod â'r wybodaeth anatomegol berthnasol
Cyflwyniad
Dros gyfnod o 16 wythnos, ar ddydd Iau, 1.00pm - 7.00pm
Byddwch yn gwneud gwaith theori a gwaith ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig
Asesiad
Amrediad o ddulliau asesu:
- Arsylwadau ymarferol - dangos sgiliau
- Gwaith theori - dangos gwybodaeth
- Prawf byr ar ddiwedd yr uned
Dilyniant
Dilyniant i weithio:
- Mewn Sba
- Yn y maes Harddwch cyffredinol
- Ym maes Harddwch a Choluro
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch