Dwdlio Zen - Canolradd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10 wythnos, 3 awr yr wythnos
Dwdlio Zen - CanolraddCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn parhau i ddatblygu eich sgiliau lluniadu a ddysgwyd ar y cwrs Dwdlio Zen sylfaenol a'r cwrs Gwella eich Sgiliau Dwdlio Zen.
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r sawl sydd am symud ymlaen o'r cwrs gwella sgiliau Dwdlio Zen - ac yn galluogi dysgwyr i godi lefel eu sgiliau lluniadu a dysgu technegau newydd.
Mae'r cwrs hwn yn eich annog i ddatblygu eich gwaith patrwm sylfaenol ac yn cynnwys dyluniadau mwy cymhleth gan ddefnyddio technegau mwy hwyliog i fireinio eich gwaith celf.
Mae dwdlio yn eich helpu i ganolbwyntio drwy greu dim ond digon o symbyliad i atal eich ymennydd rhag "cysgu". Mae'n aml yn cael ei ddefnyddio fel techneg meddylgarwch ac mae'n tawelu'r meddwl.
Mae iddo fanteision lu:
- lleihau straen
- gwella eich gallu i ganolbwyntio
- ffordd o fyfyrio
- rhoi rhyddhad emosiynol
- ysgogi creadigrwydd
- datrys problemau
- annog gwytnwch
Ffi'r cwrs: £90.00
Gofynion mynediad
Cwblhau cwrs Hanfodion Dwdlio Zen neu gwrs gwella sgiliau Dwdlio Zen Nid oes angen cyfweliad. |
Cyflwyniad
Dysgu yn y dosbarth.
Asesiad
Portffolio o waith.
Dilyniant
Cyflwyniad i Luniadu a Phaentio. |
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cyrsiau Hamdden
Cyrsiau Hamdden
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: