Dathliad Agor Salonau CMD
Croesawir chi i ymuno a ni yn lansiad cyffrous ein Salonau ar eu newydd wedd. Dydd Mercher 30ain Ebrill 2025. Yng Ngholeg Meirion Dwyfor Dolgellau.
Bydd cyfle i gwrdd a cynrychiolwyr "L’Oreal Professional" a myfyrwyr yr adran Trin gwallt a Harddwch wrth ddangos y duedd ddiweddaraf 'Mocha Mousse' i chi. Cewch gyfle i gael ymgynghoriad o’r cynnyrch L’Oreal mwyaf addas ar gyfer eich gwallt chi. Yn ogystal â mapio wynebau Dermalogica a 'mini-manicure'.
Bydd lluniaeth ysgafn (eitem Sawrus a melys) a diod ar gael. Byddwch yn cael tocyn raffl a thalebau £10 i’w defnyddio yn ein salonau trin gwallt a harddwch.
Hyn i gyd am £5 y ticed. Dewch yma i ddathlu datblygiad cyffrous i addysg alwedigaethol yr ardal.