Peak Performance - Chwaraeon Cynhwysol
Canolfan Brifysgol, Campws Llandrillo-yn-Rhos
Ymunwch â ni i gael cyfle arbennig i glywed gan siaradwyr gwadd nodedig sydd wedi perfformio i'r eithaf yn eu gwahanol feysydd, yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
Alex Marshall-Wilson – Chwaraewr Pêl-fasged Cadair Olwyn yn yr Uwch Gynghrair a Phencampwr Ewropeaidd dan 23. Astudio Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough.
"Ro'n i wrth fy modd yn gwylio chwaraeon pan o'n i'n iau, ond oherwydd fy anabledd do'n i byth yn cael cymryd rhan. Wnes i erioed feddwl y byddai fy mywyd yn newid pan o'n i'n 10 oed.
"Mi gefais i fy nghyflwyno i fyd pêl-fasged cadair olwyn ac o'r sesiwn gyntaf, ro'n i wedi gwirioni.
"Mi agorodd nifer o ddrysau - doeddwn i ddim yn disgwyl hynna! O fewn blwyddyn i ddechrau chwarae, mi gefais i fy newis i gynrychioli Cymru dan 15.
"Bellach wedi 10 mlynedd o gystadlu, dw i'n Bencampwr Ewropeaidd dan 23, yn chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair ac yn astudio Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough."