Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Peak Performance - Maeth

Dydd Llun 07 Ebrill

18:00 - 20:00

  • Llandrillo-yn-Rhos

Canolfan Brifysgol, Campws Llandrillo-yn-Rhos

Ymunwch â ni i gael cyfle arbennig i glywed gan siaradwyr gwadd nodedig sydd wedi perfformio i'r eithaf yn eu gwahanol feysydd, yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

Felicity Devey, Dietegydd a Maethegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Fel Dietegydd Cofrestredig a Maethegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cofrestredig, mae gan Felicity brofiad helaeth o gefnogi iechyd a lles athletwyr elitaidd ochr yn ochr â'u nodau perfformiad. Mae hi wedi cefnogi athletwyr ar uchder, mewn amgylchedd tywydd cynnes, yn ystod teithiau rhyngwladol ac yn y Gemau Ewropeaidd, Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Paralympaidd.

Dechreuodd Felicity ei hyfforddiant Dieteg yn 2007, gan ennill BSc (Anrh) a Chofrestriad HCPC. Arweiniodd hyn at rolau amrywiol fel Dietegydd i’r Gwasanaeth Iechyd.

Yn 2012 cwblhaodd MSc mewn Maeth Chwaraeon Cymhwysol gyda rhagoriaeth, arweiniodd ar ddechrau gyrfa fel Maethegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff cofrestredig (SENR). O ganlyniad mae hi wedi teithio ar draws Ewrop ac yn cefnogi athletwyr mewn digwyddiadau mawr fel Gemau Glasgow 2014, Gemau Ewropeaidd Baku 2015, Gemau'r Arfordir Aur 2018, ac yn 2021 bu'n Tokyo fel rhan o dîm Gemau Paralympaidd Prydain Fawr.

Ochr yn ochr â’i hangerdd dros Faeth Chwaraeon mae Felicity wedi ennill profiad o arwain a rheoli strategol. Mae ei rôl bresennol fel Arweinydd Pobl a Gwasanaethau ar gyfer Athrofa Chwaraeon Cymru yn cyfuno ei hangerdd dros bobl a pherfformio mewn chwaraeon a fydd yn y pen draw yn galluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu.

Archebwch eich lle yma


Archebu eich lle yn y digwyddiad hwn


Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date