Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Digwyddiad Darganfod Addysg Uwch

Dydd Llun 10 Mawrth

17:30 - 19:00

  • Llandrillo-yn-Rhos

Nid yw pawb yn dilyn yr un llwybr addysgol ac rydym yn annog myfyrwyr o bob math i ddod i'r coleg. Gallech fod yn dod yn syth o'r ysgol neu'r coleg, yn dychwelyd i addysg ar ôl cymryd saib, neu'ch bod am gymryd cam at wella eich gyrfa.

Mae ein cyrsiau gradd yn cynnig y gefnogaeth, yr hyblygrwydd a'r amser cyswllt gyda thiwtor a fydd yn eich helpu chi i lwyddo. I ni, y chi a'ch dyfodol chi sy'n bwysig. Yma, fyddwch chi ddim yn cael eich anghofio yng nghanol llu o fyfyrwyr eraill. Mae ein dosbarthiadau bychan yn golygu ein bod yn dod i'ch adnabod chi fel unigolion.


Archebu eich lle yn y digwyddiad hwn


Gallwch ymweld â chynifer o feysydd ag y dymunwch yn y digwyddiad.