Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rheoli Prosiectau - Sesiwn Ymwybyddiaeth Ar-lein

Dydd Mercher 23 Ebrill

10:00 - 11:00

  • Ar-lein
  • Ydych chi'n gweithio ar brosiectau?
  • Hoffech chi gael eich cydnabod am y gwaith rydych chi'n ei wneud?

Os mai 'ydw' yw'r ateb, yna gallwch gofrestru ar gymhwyster seiliedig ar waith Lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau y gallwch gael mynediad ato mewn ffordd hyblyg sy'n addas i chi. Mae hwn yn gymhwyster a ariennir yn llawn sy'n cael ei gyflwyno ar-lein.

Mae'r cymhwyster Rheoli Prosiectau hwn wedi'i anelu at y bobl hynny sy'n rheoli eu prosiect eu hunain. Gall esiamplau o swyddi gynnwys Rheolwr Prosiect, Cydlynydd Prosiect, Swyddog Prosiect neu Swyddog Cymorth Prosiect.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd a bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch gallu i reoli prosiect a thrafod y pynciau isod:
  • Egwyddorion Rheoli Prosiect
  • Rheoli Rhanddeiliaid Prosiect
  • Rheoli Cyfathrebu mewn Prosiect
  • Rheoli Achos Busnes
  • Rheoli Cyllid, Risg, Rhychwant, Amserlen ac Ansawdd Prosiect
  • Rheoli Adnoddau a Chontractau Prosiect
  • Darparu Arweiniad a Chyfeiriad
  • Cynllunio, Dyrannu a Monitro Gwaith Tîm y Prosiect

Ymunwch â ni i gael gwybod rhagor ac i siarad â'n tîm.

I gadw eich lle cliciwch yma, neu cysylltwch â ni ar prentisiaethau@gllm.ac.uk neu ffoniwch 08445 460 460


Archebu eich lle yn y digwyddiad hwn


Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date