Hyfforddai Academi Gofal Gwynedd x5
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Lleoliad:- Amrywiol ar draws y sir
Swydd Dros Dro :- Cyfle datblygiadol i ddilyn llwybr gyrfa yn y maes Gofal Cymdeithasol. Mae posibilrwydd i unigolion gwblhau cymwysterau, gradd ac ennill profiadau amrywiol i weithio tuag at rôl mewn Rheoli Gofal, dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Therapydd Galwedigaethol. Bydd swydd wedi'i warantu ar gyfer tair blynedd cyntaf cynllun yr Academi a bydd cefnogaeth ar gael yn dilyn y dair blynedd i ddilyn llwybr datblygiadol.
Cyflog:- Mae pwynt 3 yn gyfwerth i £24,027 y flwyddyn. Pwynt cychwynnol yw’r pwynt cyflog hysbysebir yma. Bydd eich cyflog yn cynyddu wrth i chi ddatblygu drwy Academi Gofal Gwynedd i adlewyrchu cyfrifoldeb ac wrth i feini prawf cymwyseddau gael eu taro.
Mae Academi Gofal Gwynedd yn cynnig cyfle cyffrous i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol, gan ddewis y llwybr sydd fwyaf addas i chi.
Yn agored i unrhyw un sy'n 17 oed neu'n hŷn, gallwch ennill cyflog wrth ddysgu yn ogystal â chael cymorth, hyfforddiant ac arweiniad ar hyd y daith.
Gyda llwybrau amrywiol drwy'r Academi Gofal, p'un a ydych yn chwilio am rôl mewn Rheoli Gofal, dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Therapydd Galwedigaethol, mae posibilrwydd datblygu drwy’r academi i rôl sy'n addas i chi. Mae’r sector bob amser angen aelodau tîm brwdfrydig i gefnogi pobl ledled Gwynedd. Mae cyfleoedd ar gael yn ein timau Plant, Oedolion ac Anableddau Dysgu
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Sut i wneud cais
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwenno Williams ar 01286 679026
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd,
Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 neu
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Cyfweliadau:- 03.02.2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Swydd
Lleoliad
Various
Sir
Gwynedd
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/SwyddiArLein/en/Swydd/Manylion/27852
Dyddiad cau
23.01.25
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.