Rheolwr Cynllun Awel y Dyffryn
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, egnîol a deinamig i sicrhau rheolaeth effeithiol o Awel y Dyffryn a meithrin naws gymunedol a chefnogol mewn amgylchedd diogel. Byddwch yn gweithredu fel y prif gyswllt i’r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid a’r gymuned leol gan sicrhau gwasanaethau rheolaeth tai â chefnogaeth ragorol i denantiaid. Byddwch yn darparu cefnogaeth briodol i denantiaid i’w galluogi i gynnal eu tenantiaeth yn llwyddiannus; parchu a hyrwyddo eu hawliau, dewisiadau a’u hannibyniaeth. 'Rydym yn chwilio am unigolyn all gydweithio’n effeithiol gyda’r darparwyr gofal ar safle ynghyd ag asiantaethau eraill sy’n darparu gwasanaethau gofal, cefnogaeth neu iechyd er mwyn cwrdd ag anghenion y tenantiaid a sicrhau rhediad esmwyth y cynllun.
Sut i wneud cais
Ar wefan y cyflogwyr
Manylion Swydd
Lleoliad
Dinbych
Sir
Sir Ddinbych
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://www.grwpcynefin.org/ymunwch-ar-tim/swyddi-gwag/
Dyddiad cau
05.05.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk